S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​S4C yn darlledu gemau rygbi Cymru dros yr Haf

17 Mehefin 2021

Bydd gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn yr Ariannin dros yr haf i'w gweld yn fyw ar S4C.

Stadiwm Principality yw'r lleoliad ar gyfer cyfres o dair gêm brawf rhyngwladol yn ystod mis Gorffennaf.

Bydd Cymru yn wynebu Canada ar Ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf am 3.00yh, gydag uchafbwyntiau estynedig o'r gêm i'w gweld ar S4C yn hwyrach ymlaen yr un diwrnod.

Yna bydd tîm Wayne Pivac yn herio'r Ariannin mewn dwy gêm brawf dros y ddau benwythnos ganlynol, ar ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf am 1.00yh, a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf am 3.00yh.

Yn wreiddiol, roedd y gemau i fod i gael eu chwarae yn yr Ariannin, cyn iddyn nhw gael ei ail-lleoli i Gaerdydd oherwydd y pandemig. Serch hynny, bydd y gemau yn dal i gael eu cyfeirio atynt fel Yr Ariannin v Cymru.

Bydd y ddwy gêm yn erbyn y Pumas i'w gweld yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael drwy wasanaeth y botwm coch.

Bydd yr holl gemau ac uchafbwyntiau i'w gweld ar alw ar S4C Clic.

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Rydyn ni'n hapus iawn fod S4C yn dangos dwy gêm Cymru yn erbyn yr Ariannin yn fyw dros yr haf.

"Mae'r gemau yma yn gyfle i weld talent newydd ar y llwyfan rhyngwladol a hynny o flaen torf y Stadiwm Principality."

Gemau Prawf yr Haf Cymru 2021

Cymru v Canada - Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf – 3.00yh - Uchafbwyntiau ar S4C

Cymru v Yr Ariannin (Prawf Cyntaf) - Dydd Sadwrn 10 Gorffennaf – 1.00yh - Yn fyw ar S4C

Cymru v Yr Ariannin (Ail Brawf) - Dydd Sadwrn 17 Gorffennaf – 3.00yh - Yn fyw ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?