S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Dilynwch y Chwe Gwlad Dan-20 ar S4C a BBC Cymru

Pob gêm i'w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi a Scrum V

18 Mai 2021

Bydd S4C a BBC Cymru yn darlledu pob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan-20 2021.

Gyda'r bencampwriaeth gyfan yn cael ei chynnal ym Mharc yr Arfau Caerdydd eleni am bum diwrnod wedi ei wasgaru dros bedair wythnos, bydd yr holl gemau yn cael eu dangos yn fyw ar deledu ac ar-lein.

Bydd rowndiau un a phump i'w gweld yn fyw ar BBC gyda Scrum V Live, tra bydd rownd dau, tri a phedwar yn cael eu dangos gan Clwb Rygbi ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael.

Bydd holl gemau Cymru yn cael eu darlledu yn fyw ar deledu, ar S4C a BBC Two Wales, tra bydd gweddill y gemau i'w gweld ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

BBC Cymru fydd yn cynhyrchu'r holl arlwy o'r pymtheg gêm.

Dywedodd Gareth Rhys Owen, cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol a Scrum V Live: "Mae'r Chwe Gwlad Dan-20 yn rhoi cipolwg i ni o ddyfodol rygbi. Heb os, byddwn ni'n gweld sawl seren y dyfodol yn creu argraff ar y cae eleni.

"Gyda'r fformat newydd, a'r holl gemau yn digwydd ym Mharc yr Arfau, mae 'na wefr wahanol i'r Pencampwriaeth eleni."

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Bydd S4C yn dangos naw gêm o'r Bencampwriaeth eleni. Er na welsom y Chwe Gwlad Dan-20 ar y sgrin ym mis Mawrth ac Ebrill, rydym yn falch iawn y bydd yn cael ei gynnal dros yr haf.

"Dyma gyfle gwych i chwaraewyr ifanc ddangos eu doniau i gynulleidfa eang, a gobeithio bydd cefnogwyr rygbi yn mwynhau'r holl arlwy ar deledu ac ar S4C Clic."

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru: "Mae'n anhygoel o gyffrous fod holl gemau'r Bencampwriaeth arbennig yma ar gael i wylwyr ar BBC Two Wales ac S4C.

"Mae'n rhan o haf arbennig o chwaraeon sy'n sicr o roi modd i fyw i gefnogwyr. Dwi'n methu aros!"

DIWEDD

Amserlen Gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Dan 20

Rownd 1 – Dydd Sadwrn 19 Mehefin:

Yr Alban v Iwerddon (CG 14:00) - BBC iPlayer

Lloegr v Ffrainc (CG 17:00) - BBC iPlayer

Yr Eidal v Cymru (CG 20:00) – BBC Two Wales & BBC iPlayer

Rownd 2 – Dydd Gwener 25 Mehefin:

Lloegr v Yr Alban (CG 14:00) – S4C Clic

Yr Eidal v Ffrainc (CG 17:00) – S4C Clic

Cymru v Iwerddon (CG 20:00) – S4C, S4C Clic, iPlayer

Rownd 3 – Dydd Iau 1 Gorffennaf:

Yr Alban v Yr Eidal (CG 14:00) – S4C Clic

Ffrainc v Cymru (CG 17:00) – S4C, S4C Clic, iPlayer

Iwerddon v Lloegr (CG 20:00) – S4C Clic

Rownd 4 – Dydd Mercher 7 Gorffennaf:

Yr Eidal v Iwerddon (CG 14:00) - S4C Clic

Ffrainc v Yr Alban (CG 17:00) - S4C Clic

Cymru v Lloegr (CG 20:00) - S4C, S4C Clic, iPlayer

Rownd 5 – Dydd Mawrth 13 Gorffennaf:

Lloegr v Yr Eidal (CG 14:00) - BBC iPlayer

Iwerddon v Ffrainc (CG 16:45) - BBC iPlayer

Yr Alban v Cymru (CG 20:00) – BBC Two Wales & BBC iPlayer

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?