S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Aelod newydd i dîm Tywydd S4C

24 Mehefin 2021

Bydd aelod newydd yn ymuno â thîm cyflwyno Tywydd S4C dros y misoedd nesaf.

Bydd Llŷr Griffiths-Davies yn ymuno am gyfnod i gyflwyno bwletinau tywydd ar S4C, wrth i Megan Williams gychwyn cyfnod mamolaeth

Bydd Llŷr, sydd yn wreiddiol o Rhydlewis, yng Ngheredigion, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn lais cyfarwydd i sawl un, wedi iddo gyflwyno bwletinau tywydd a thraffig ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ers 2013.

Mae gan Llŷr hefyd brofiad blaenorol o weithio ar y teledu, gan ei fod wedi cyflwyno'r tywydd ar raglen newyddion BBC Wales Today yn y gorffennol.

Meddai Llŷr: "Mae'n braf iawn cael darlledu yn y Gymraeg i gynulleidfa deledu byw unwaith eto.

"Mae lot wedi newid ers i mi gyflwyno'r tywydd ar y teledu, gan gynnwys symud i adeilad newydd y Sgwâr Canolog, ac mae'n gyffrous iawn i gael bod yn y stiwdio ffantastig yma a chael defnyddio'r holl gyfarpar modern.

"Fel rhywun a fagwyd ynghanol cymuned amaethyddol, dwi'n gwybod mor bwysig yw rhagolygon y tywydd i bobl.

"Fel cyflwynydd tywydd, mi wyt ti'n rhannu newyddion da a newyddion drwg gyda phawb.

"Does dim tywydd da neu ddrwg bellach, achos tra bydd rhai eisiau tywydd heulog a chynnes, bydd pobl eraill eisiau glaw.

"Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm – wrth i fwy a mwy o bobl fynd allan unwaith eto wedi'r cyfnodau clo, a threulio'u gwyliau'n agosach at adref.

"Yn sicr mae 'na wefr i gyflwyno'n fyw, boed ar y teledu neu'r radio.

"Mae e'n waith tîm, heb os, ond mae hefyd lot o gyfrifoldeb arnat ti, i wneud yn siŵr dy fod yn gwneud y swydd orau bosib."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?