S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Cyfleoedd Cynllun Hyfforddi Newyddiaduraeth ITV ac S4C

25 Mehefin 2021

Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gyda S4C, unwaith eto yn chwilio am ddau berson brwdfrydig sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth yn y Gymraeg.

Mae'r cynllun hyfforddi arloesol, sy'n bartneriaeth rhwng S4C ac ITV, yn rhedeg am y pedwerydd tro eleni ac yn rhan o ymrwymiad S4C i roi cyfle i bobl sy'n cael eu tangynrychioli yn y sector i weithio yn y maes.

Bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn cynllun hyfforddiant am 12 mis a chael y profiad o weithio ar y rhaglenni materion cyfoes mae ITV yn creu ar gyfer S4C, rhaglenni fel Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le.

Byddant hefyd yn dysgu creu cynnwys materion cyfoes ffurf fer ar gyfer cynulleidfa Hansh Dim Sbin ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac i wasanaethau newyddion digidol S4C.

"Rydym ni mor falch o'r bartneriaeth gydag S4C i wireddu'r cynllun hyfforddiant yma eto eleni a'r ymrwymiad pellach i ddatblygu cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr drwy gyfrwng y Gymraeg." dywedodd Branwen Thomas, Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru

"Mae'n gyfle cyffrous i greu cynnwys materion cyfoes i Hansh Dim Sbin a datblygu sgiliau digidol fydd yn allweddol i unrhyw yrfa ym maes newyddiaduraeth yn y dyfodol."

Lloyd Lewis a Maia Davies oedd y ddau a enillodd eu lle ar y cynllun hyfforddi y llynedd, ac mae'r ddau wedi cael profiadau gwerthfawr iawn yn gweithio yn y maes ac yn datblygu eu sgiliau.

"Er mae wedi bod yn flwyddyn ryfedd gyda Covid, mae'r cynllun newyddiadurwr dan hyfforddiant eleni wedi bod yn brofiad gwych o ran cael blas o'r diwydiant a dwi wedi mwynhau'n fawr iawn.

"Yr uchafbwyntiau i fi oedd cael mynd mas a chynnal a ffilmio cyfweliadau â chyfranwyr.

"Fy nghyngor i rywun sydd rhwng dau feddwl am neud cais neu beidio bydd gwnewch e! Does dim byd i golli a phrofiadau unigryw i'w ennill." meddai Lloyd.

"Mae'r cynllun hyfforddiant yn gyfle grêt i weithio gyda thîm o newyddiadurwyr profiadol sydd bob tro'n barod i'ch cefnogi chi i ddysgu a gwella.

"Rydw i wedi mwynhau cael rhyddid i ddilyn y straeon sydd o ddiddordeb i mi, a gallu bod yn greadigol wrth weithio gyda phlatfformau digidol.

"Os ydych chi mewn dwy feddwl am wneud cais, rhowch dro arni – 'sdim angen llwyth o brofiad, dim ond eich bod chi'n greadigol ac yn barod i weithio'n galed!" ychwanegodd Maia

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C:

"Rydyn ni'n falch iawn o allu ymestyn y cynllun hwn eto eleni ar ôl llwyddiant y blynyddoedd diwethaf.

"Mae rhoi llwyfan i newyddiaduraeth gyfoes a barn pobol ifanc am beth sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas yn ychwanegiad pwysig at Hansh, ac yn lle i ddatblygu technegau gwbl gyfoes o drafod materion Cymru a'r byd."

Dyma gyfle arbennig i rywun sydd â diddordeb brwd mewn newyddion a materion cyfoes ac eisiau dilyn gyrfa bellach fel Newyddiadurwr.

Mae'r dyddiad cau ar Fehefin 30 ac mae'r cynllun hyfforddiant yn gytundeb 12 mis: https://itv.referrals.selectminds.com/jobs/trainee-journalist-609

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?