S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

“Er yr anawsterau – gwelwyd cynnydd yn ein cynulleidfaoedd ar draws pob platfform.”
Neges Prif Weithredwr S4C wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2020/21

21 Gorffennaf 2021

Mae S4C wedi llwyddo i sicrhau cynnydd yn ei ffigurau gwylio ar draws pob platfform, gan brofi gwerth y sianel i'r iaith a'r economi.

Daw'r newyddion wrth i S4C gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn 2020/21.

Mae'r adroddiad yn nodi rôl hollbwysig S4C o ran cynnal a hyrwyddo'r Gymraeg, gyda'r nod o gyfrannu at gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Gydag amrywiaeth o raglenni sy'n cwmpasu drama, chwaraeon, newyddion, adloniant, rhaglenni ffeithiol, ffydd, plant a mwy, mae S4C yn rhoi cyfle i bobl o bob cefndir i glywed a mwynhau'r Gymraeg ar draws pob genre.

Gyda strategaeth ddigidol ar waith, gwelwyd cynnydd gydag oriau gwylio S4C Clic i fyny 45% ac 20% ar BBC iPlayer. Ac fe lwyddwyd i ddenu 200,000 o danysgrifwyr i S4C Clic.

Yn ogystal gwelwyd cynnydd yng nghyfartaledd gwylio oriau brig yng Nghymru o 17,500 i 18,500 (6%).

Cynyddodd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru o 306k i 321k (5%) a'r cyrhaeddiad wythnosol y tu draw i Gymru o 396k i 502k (27%.)

Cododd oriau gwylio S4C ledled y DU i'w lefel uchaf ers saith mlynedd.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, maes lle mae'r sianel wedi buddsoddi ynddo dros y blynyddoedd diwethaf, tyfodd oriau gwylio ar brif dudalen Facebook S4C 72% flwyddyn ar flwyddyn, gydag oriau gwylio ar brif gyfrif Twitter S4C yn tyfu 87%.

Bu 28.5 miliwn o sesiynau gwylio ar draws tudalennau Facebook S4C yn ystod y flwyddyn a gwelwyd cynnwys S4C 458,000 o weithiau'r dydd ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn ar draws Facebook, Twitter ac Instagram.

Cafodd Hansh dros 1.4 miliwn o sesiynau gwylio ym mis Mawrth 2020 (record) a chynyddwyd yr oriau gwylio ar draws sianeli YouTube S4C 48% yn ystod y flwyddyn.

"Fe wnaeth Covid gyffwrdd pawb dros y flwyddyn ddiwethaf," meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

"Serch hynny, fe lwyddodd S4C i afael yn ei phwrpas a sicrhau gwasanaeth mwy personol nag erioed i'n cynulleidfa.

"Trwy dynhau'r berthynas â'n cynulleidfa, ein cyflenwyr a'n partneriaid, fe wnaeth S4C ail-ddiffinio'r gwasanaeth gyda anghenion y wlad wrth ei galon.

"Roedd ymateb y sector gynhyrchu i'r amgylchiadau eithriadol yn hyblyg ac yn chwim ac rydym yn diolch yn fawr iddynt am hynny."

Collwyd gwerth dros £8miliwn o raglenni o'r amserlen dros nos o achos Covid wrth i ddigwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau gael eu canslo a gwaith cynhyrchu ar ddramâu ddod i stop.

Felly roedd angen dybryd i gomisiynu cynnwys newydd. Bu hyn yn gyfle i S4C arbrofi.

Darlledwyd Cyswllt (Mewn Covid), y ddrama gyntaf i'w chomisiynu a'i chynhyrchu yn ystod y cyfnod clo yn y DU, a chyfres newydd boblogaidd Sgwrs dan y Lloer ymhlith nifer o fformatau llwyddiannus newydd eraill.

Bu Eisteddfod T hefyd yn ffordd arloesol o ddangos creadigrwydd y sector ar ei orau.

Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd S4C

"Mae amgylchiadau annisgwyl ac anodd yn aml yn dod â'r gorau allan o unigolion a sefydliadau a dyna'n sicr sy' wedi digwydd yn hanes S4C.

"Gan gydnabod y bygythiad i sector cynhyrchu annibynnol Cymru a cholli cynnwys amlwg yn eu plith dramâu sebon, chwaraeon a digwyddiadau mawr, aeth S4C ati i lansio nifer o rowndiau comisiynu mawr yn ystod 2020/21."

"Gwnaethom gomisiynu £8.7m o raglenni newydd yn ystod y pandemig gan bwmpio cyllid yr oedd gwir angen amdano i economi Cymru, cyllid a wasgarwyd ledled y wlad.

"Mae ein dyled yn fawr i bawb o weithwyr y diwydiannau creadigol a gadwodd i weithio dan amgylchiadau anodd i gynnal gwasanaethau S4C."

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?