S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Arddangosfa Cymry ar Gynfas i’w gweld yn Storiel

22 Gorffennaf 2021

Yn dilyn y gyfres ddiweddaraf o Cymry ar Gynfas, a ddarlledwyd ar S4C ym mis Ebrill, mae gweithiau o'r ddwy gyfres nawr yn cael eu harddangos yn oriel ac amgueddfa Storiel, Bangor.

Mae'r gyfres Cymry ar Gynfas yn dangos wynebau mwyaf cyfarwydd o Gymru mewn ffordd hollol wahanol. Mae'r cyfresi wedi dod a deuddeg eicon a deuddeg artist Cymraeg at ei gilydd i greu deuddeg portread sy'n adlewyrchu personoliaeth y wynebau cyfarwydd a dull unigryw pob artist.

Ym mhob rhaglen, mae pob artist yn cael diwrnod gyda'u 'gwrthrych' mewn lleoliad o ddewis, yna yn dychwelyd i'r stiwdio i weithio ar y gwaith cyn datgelu'r portreadau gorffenedig.

Yn y gyfres ddiweddaraf, roedd y ddarlledwraig Beti George yn cael ei dehongli gan yr artist Catrin Williams, y naturiaethwr Iolo Williams yn cael ei beintio gan Meinir Matthias, y cerddor a phrif leisydd y band Candelas Osian Huw Williams gan Christine Mills, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd gan Anthony Evans, y gantores Kizzy Crawford gan Seren Morgan Jones a'r canwr a'r ymgyrchydd dylanwadol Dafydd Iwan gan Wil Rowlands.

Ac yn y gyfres gyntaf, cafodd Robin McBryde ei beintio gan Iwan Gwyn Parry, Max Boyce gan Meirion Jones, Catrin Finch gan Annie Morgan Suganami, Rhys Mwyn gan Luned Rhys Parry, Margaret Williams gan Sarah Carvell a Bryn Terfel gan Billy Bagilhole.

A nawr, mae cyfle i weld y gweithiau unigryw hyn yn Storiel, Bangor.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:

"Mae'n wych fod cyfle i arddangos casgliad trawiadol cyfresi Cymry ar Gynfas yn Storiel. Mae'r gweithiau yn rhai arbennig iawn ac wedi'u creu gan rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Mae'n bleser ein bod ni'n gallu cynnig cyfle i'r cyhoedd ddod i weld a mwynhau'r gweithiau yma."

Meddai Delyth Gwawr, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd:

"Rydym yn falch iawn o gael arddangos y casgliad deniadol hwn o bortreadau o rhai o Gymry amlwg yn Storiel. Difyr iawn oedd gweld yr artistiaid amrywiol dros y ddwy gyfres yn ymateb i'r her a gwych yw'r cyfle i wahodd y cyhoedd i weld y gweithiau gwreiddiol yma yn Storiel am gyfnod."

Mi fydd yr arddangosfa i'w gweld tan y pedwerydd o Fedi, ac mae'r gyfres ddiweddaraf o Cymry ar Gynfas hefyd ar gael ar alw ar S4C Clic.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?