S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

12 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C

7 Medi 2021

Mae S4C wedi llwyddo i gael 12 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth 7 Medi.

Llwyddodd S4C i gipio pob un enwebiad yn y categori Rhaglen Adloniant gydag Am Dro! (Cardiff Productions), Dolig Ysgol Ni: Maesincla (Darlun TV) Priodas Pum Mil (Boom Cymru) a Sgwrs Dan y Lloer: Kristoffer Hughes (Tinopolis) yn cyrraedd y rhestr.

Yn ogystal, llwyddodd Elin Fflur i ennill enwebiad yn y categori Cyflwynydd am ei gwaith ar y gyfres boblogaidd Sgwrs Dan y Lloer (Tinopolis).

Cyrhaeddodd Un Bore Mercher (Vox Pictures) y rhestr yn y categori Drama Deledu ac fe gafodd S4C ddau enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gyda Deian a Loli (Cwmni Da) a Mabinogi-ogi a Mwy (Boom Cymru).

Daeth dau enwebiad hefyd i S4C yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes.

Llwyddodd rhifyn arbennig o Pawb a'i Farn ar Black Lives Matter (Tinopolis) i ennill enwebiad yn ogystal a rhaglen ddogfen iasol Llofruddiaeth Mike O'Leary (ITV Cymru).

Hefyd llwyddodd Barry Jones i ennill enwebiad yn y categori Awdur am ei waith ar y gyfres gomedi Rybish (Cwmni Da), a daeth enwebiad i Nia Dryhurst yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol am ei gwaith ar y rhaglen ddogfen llawn tensiwn Chwaer Fach, Chwaer Fawr (Dogma).

Wrth longyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Ry'n ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2021.

"Mae'r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre, ac yn dathlu rhaglenni plant, drama, ffeithiol, adloniant a materion cyfoes."

"Rydw i'n falch iawn o bob un, a dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo ar lein."

Cynhelir y seremoni ddigidol ddydd Sul 24 Hydref 2021 am 7.00 yr hwyr ar draws sianeli cymdeithasol BAFTA.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?