S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C

17 Tachwedd 2021

Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Siân Doyle wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr S4C.

Mae Siân yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr cwmni telegyfathrebu TalkTalk a chyn hynny EE, lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Manwerthu yn gyfrifol am arwain a datblygu tîm o 3,500 o gydweithwyr ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Bu hefyd yn Uwch Is-Lywydd cwmni Comcast Cable yn Philadelphia.

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol Cysgodol S4C:

"Rydym yn falch iawn i allu penodi arweinydd gyda chyfoeth o brofiad mewn llunio a gweithredu strategaethau uchelgeisiol a llwyddiannus ac o ddeall a bodloni anghenion defnyddwyr.

"Mae angen mentro er mwyn sicrhau bod S4C yn atgyfnerthu ei hun fel darparwr cynnwys creadigol a beiddgar y mae defnyddwyr am ymwneud ag e' ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

"Mae'r Bwrdd yn ymddiried yn gyfan gwbl yng ngallu Siân i fynd i'r afael â hyn ac i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r byd digidol yn creu.

"Bydd profiad helaeth Siân ym myd telegyfathrebu a manwerthu yn y Deyrnas Gyfunol, Canada a'r Unol Daleithiau yn ogystal, wrth gwrs, â'i chariad at y Gymraeg yn gaffaeliad mawr i S4C yn y blynyddoedd i ddod".

Dywedodd Siân Doyle:

"Trwy fy ngyrfa rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda phobl a chwmnïau arbennig a dwi wedi dysgu gymaint ag elwa o brofiadau gwerthfawr.

"Mae fy angerdd dros fy nghydweithwyr ac anghenion defnyddwyr wedi bod yn rhan annatod o fy mhrofiad dros y blynyddoedd.

"Nawr fy mod wedi dychwelyd i Gymru rwy'n edrych 'mlaen i weithio gyda'r tîm yn S4C ac arwain y sefydliad wrth iddo ymateb yn egnïol i'r newidiadau yn y tirwedd cyfryngau a sicrhau ei fod yn gwneud y gorau o bob cyfle'n chwim.

"Rwy'n ymuno gydag S4C ar drothwy'r esblygiad hwn a mi fyddaf yn gweithio i ymbweru'r dalent sydd gyda ni yng Nghymru i arloesi ymhellach yn y byd digidol cyffrous hwn".

Bydd Siân Doyle yn cychwyn fel Prif Weithredwr ar 1 Ionawr 2022.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?