S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Dilynwch Uwch Gynghrair Grŵp Indigo gyda gemau byw bob nos Iau ar S4C

Gemau byw ar-lein o'r Prem Indigo bob nos Iau, i gychwyn y penwythnos rygbi

22 Tachwedd 2021

Bydd S4C yn dangos gemau o'r Uwch Gynghrair Rygbi Grŵp Indigo yn fyw ar-lein bob wythnos y tymor hwn mewn cyfres newydd – Indigo Prem.

Bydd y gemau i'w gweld ar wasanaeth S4C Clic a thudalennau Facebook S4C Chwaraeon ac YouTube S4C.

Y gêm gyntaf o'r 14 rownd bydd Aberafan v Abertawe, am 7.30yh ar nos Iau 9 Rhagfyr.

Yn ogystal â'r gemau byw, bydd rhaglen uchafbwyntiau wythnosol i'w gweld ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C Chwaraeon ac Undeb Rygbi Cymru.

Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno Indigo Prem, gyda Whisper Cymru yn cynhyrchu'r rhaglenni ar ran S4C.

Meddai Lauren Jenkins: "Mae popeth i'w gael yn yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo; chwaraewyr a hyfforddwyr o safon, gelyniaethau ffyrnig a gemau cystadleuol sy'n llawn ceisiau. Dyma'r lefel uchaf o rygbi clybiau Cymru ac mae'n gonglfaen i'r gêm genedlaethol. S4C yw'r unig le i ddilyn yr Uwch Gynghrair, felly ymunwch â ni bob nos Iau."

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae hwn yn fenter newydd cyffrous, un ry'n ni'n gobeithio bydd yn helpu denu gwylwyr newydd i rygbi clybiau Cymru, yn ogystal ag ateb galw cefnogwyr ffyddiog y gynghrair.

"Rydyn ni wedi datblygu ein darpariaeth chwaraeon ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein gemau rygbi, phêl-droed, hoci a phêl-rwyd wedi profi'n boblogaidd. Rydyn ni'n falch iawn i gyd-weithio gyda'r clybiau ac Undeb Rygbi Cymru i gynnig platfform newydd i'r gynghrair."

Meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: "Rydyn ni wedi gweithio yn agos gyda S4C ar gynllun newydd a chyffrous ar gyfer Uwch Gynghrair Grŵp Indigo. Bydd y gwasanaeth hwn yn arddangos y safon uchaf o rygbi clybiau Cymru, a'r gobaith yw y bydd yn denu cynulleidfa newydd, yn ogystal â chefnogwyr ffyddlon i'r gynghrair.

"Bydd holl glybiau'r Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yn ymddangos mewn o leiaf un gêm yn ystod y tymor, mewn slot ddarlledu cyson ar nos Iau.

"Rydyn ni'n disgwyl i'r gemau yma gael eu dangos mewn clybiau rygbi ledled y wlad wrth i'r gystadleuaeth adeiladu tuag at ddiweddglo cyffrous.

"Merthyr yw deiliaid y gynghrair ar ôl ennill y bencampwriaeth yn 2019, cyn i'r tymor olynol gael ei ohirio yn sgil y pandemig. Ond mi rydyn ni wedi cyflwyno tarian a phrif noddwr newydd ers hynny, a nawr mi fyddwn ni'n chwilio am y clwb cyntaf i hawlio tarian yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo am y tro cyntaf."

DIWEDD

Gemau ar-lein byw

Nos Iau 9 Rhagfyr - Aberafan v Abertawe - 7.30yh

Nos Iau 16 Rhagfyr - Cwins Caerfyrddin v Llanelli - 7.30yh

Dydd Llun 27 Rhagfyr - Glyn Ebwy v Casnewydd - 2.30yh

Nos Llun 3 Ionawr 2022 - Llanelli v RGC 1404 - 5.30yh

Nos Iau 13 Ionawr - Pen-y-bont v Pontypridd - 7.30yh

Nos Iau 27 Ionawr - Caerdydd v Glyn Ebwy - 7.30yh

Gemau byw ar-lein S4C - Cwestiynau ac Atebion

Sut ydw i'n gwylio gemau byw Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar-lein?

Gallwch wylio'r gemau yn fyw ar-lein ar wasanaeth digidol S4C Clic, ar unrhyw ddyfais glyfar neu ar eich cyfrifiadur, drwy fynd i www.s4c.cymru/clic, neu drwy lawrlwytho'r ap S4C Clic; ar App Store ar ddyfais Apple, neu Google Play ar ddyfais Android. Mae modd gwylio'r gemau ar deledu clyfar neu gyda ddyfais teledu glyfar (fel Amazon Firestick), drwy fynd i dudalen YouTube S4C.

Bydd y gemau hefyd yn cael eu dangos ar dudalen Facebook S4C Chwaraeon, ar www.facebook.com/s4cchwaraeon, tudalen Facebook Undeb Rygbi Cymru, www.facebook.com/welshrugbyunion, neu ar dudalen YouTube S4C, ar www.youtube.com/s4c.

Ydw i angen cofrestru i greu cyfrif S4C Clic?

Oes, mae angen creu cyfrif i gael mynediad i S4C Clic. Mae'n hawdd creu cyfrif ac yn rhad-ac-am-ddim.

Ewch i www.s4c.cymru/clic a chliciwch ar 'Cofrestrwch Nawr'. Yna bydd angen rhoi eich enw, cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair dewisol, a chlicio 'Nesa'. Bydd hynny yn danfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost, ble fydd angen i chi glicio ar y ddolen i gadarnhau'r cyfrif, ac yna bydd eich cyfrif yn fyw a byddwch chi'n barod i wylio.

Ydi'r gemau ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer?

Na, fydd y gemau byw ddim i'w gweld ar iPlayer.

A oes sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gemau?

Oes, mae'n bosib gwylio'r gemau gyda sylwebaeth Saesneg ar S4C Clic, drwy ddewis Saesneg fel iaith, neu ar dudalen YouTube S4C.

Gallaf gysylltu gyda S4C am gymorth i wylio'r gemau?

Gallwch. Mae Gwifren y Gwylwyr S4C yn barod i helpu ac yn agored bob dydd rhwng 10yb a 10yh. Ffoniwch 0370 600 4141 neu e-bostiwch gwifren@s4c.cymru am gymorth.

Pam fod y gemau yn cael eu dangos ar-lein yn unig?

Gyda chefnogaeth gan Undeb Rygbi Cymru a holl glybiau'r Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, mae S4C wedi ymrwymo i ddangos gêm byw o bob wythnos yn ystod gweddill y tymor. Penderfynwyd dangos y gemau ar-lein yn unig ar nos Iau, er mwyn cynnig slot ddarlledu cyson a sianel ddigidol arbenigol, sydd yn hawdd i'w ddefnyddio.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae S4C wedi dangos nifer fawr o gemau rygbi yn ddigidol yn unig, gan gynnwys yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, gemau rhyngwladol Merched a Dan 20, a gemau o Gynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru. Roedd dros 11 miliwn o sesiynau gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer yn ystod y flwyddyn 2020/21, ac mae cynnig rhagor o chwaraeon ar sianeli digidol S4C yn rhan o strategaeth i ehangu ein cynnig ar hyd phob platfform.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?