S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn rhyddhau ei promo Nadolig

1 Rhagfyr 2021

Mae S4C heddiw wedi rhyddhau ei promo Nadolig sy'n adlewyrchu'r flwyddyn ddiwethaf trwy lygaid rhai o anifeiliaid Cymru.

Eleni, mae S4C, ar y cyd efo cwmni J.M.Creative a Picl Animation, wedi creu animeiddiad newydd sbon fydd yn siŵr o gynhesu'r galon.

Bydd rhai o anifeiliaid Cymru yn ein hatgoffa o rai o ddigwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf mewn ffordd chwareus a hudol.

Dyma'r flwyddyn gwelwyd Geifr gwyllt y Gogarth yn mentro i ganol tref Llandudno a'r ymwelydd annisgwyl yn ymgartrefu ar draeth Dinbych y Pysgod ar ffurf 'Wally' y Walrws.

Yn ogystal, byddwn yn cael ein gwahodd i ddathlu gyda theulu o Adar y Pâl (Puffins) ar Ynys Sgomer ac yn treulio noson wyllt gyda rhai o wylanod chwareus dinas Caerdydd.

Mae'r animeiddiad wedi ei gosod i ddarn o gerddoriaeth sydd â stori hudolus, ei hun, sef llais unigryw Meredydd Evans sydd yn canu'r gan 'Santa Clôs', a recordiwyd n'ol yn y 40au, fel rhan o ddrama radio BBC Cymru, 'Santa Clôs a'r Tri Cabalero' gan Islwyn Ffowc Elis.

Bydd y melodi i'w chlywed dros holl lwyfannau'r sianel gyda threfniant newydd wedi ei chreu gan y cerddor, Steffan Rhys Williams.

Meddai Huw Derfel, Cynhyrchydd Promos S4C: "Dwi'n credu ein bod ni wedi creu animeiddiad newydd, sydd yn gynhenid Gymreig, fydd yn apelio at y teulu cyfan, ac yn dod â gwen i'n gwylwyr dros gyfnod y 'Dolig."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?