31 Ionawr 2022
Bydd cyfres ddogfen newydd yn codi'r bonet ar ddiwylliant ceir yng ngogledd Cymru.
Bydd Pen Petrol, sydd yn cael ei ddangos ar S4C ar nos Lun, yn cynnig mewnwelediad i'r sîn ceir, gan glywed gan y rhai sy'n angerddol am addasu eu ceir, cymryd rhan mewn ralis ganol-nos ar lonydd gwledig a chynnal cyfarfodydd cymdeithasol mawr.
Er bod gyrwyr yn cydnabod fod y sîn yn cael ei weld fel rhywbeth 'gwrthgymdeithasol' a 'laddish' gan rai, mae'r gyfres yn cynnig safbwynt gwahanol ar fywydau'r dynion a merched sydd yn mwynhau cyfarfod bob penwythnos ac arddangos eu cerbydau amrywiol.
Y grŵp ceir sydd yn ganolbwynt i'r gyfres yw Unit Thirteen, sydd wedi ei lleoli ym Mangor ac sy'n denu dilynwyr o Sir Fôn, Gwynedd ac ar draws y gogledd.
Dywedodd Craig Gilmour o Langefni, sy'n aelod o Unit Thirteen: "Dwi ddim yn licio'r gair boyracer. Dwi'n enthusiastic am geir.
"Dwi ddim yn dreifio allan o gwaith yn rasio pobl ar y ffordd adra.
"Ond mae lot yn peintio chdi efo'r un brwsh a'r bobol sydd yn neud idiots o'i hunain. Ma' pobol yn awgrymu bo chdi'n anti-social.
"Fel grŵp da ni'n reit mechanically-minded, da ni efo hogia sy'n peintio, detailio, paint correction, vinyl wrapping, da ni efo engineers a machine specialistsis.
"Dwi'n meetio gymaint o wahanol bobol sydd fewn i gymaint o wahanol ceir. Ond ma pawb yn dod at ei gilydd am yr un rheswm – ceir."
Meddai cyd-aelod Unit Thirteen, Lewis Rushton, o Landdaniel Fab: "'Da ni wedi neud mor dda fel grŵp dros y deg mlynedd dwytha i ddim cael bad reputation.
"Da ni'n respected fatha car grŵp. Da ni'n trio peidio cael pobol i neud wheelspins, donuts, revio a stwff felna. Dio ddim be da ni'n neud."
Ym mhennod gyntaf y gyfres, byddwn hefyd yn cwrdd â grŵp arall o Fangor, y Midnight Runners, sydd wedi trefnu rhai o ddigwyddiadau ceir mwyaf gogledd Cymru dros y blynyddoedd.
Yn ddiweddar, mae'r grŵp wedi cynnal cyfarfodydd - neu meets - ym meysydd parcio archfarchnadoedd a chanolfannau siopa ym Mangor a Llandudno, gan ddenu cannoedd o bobl a'u ceir.
Er iddyn nhw ddenu sylw'r heddlu, mae'r grŵp yn mynnu nad ydyn nhw'n annog ymddygiad all gael ei ddehongli fel 'gyrru gwrthgymdeithasol'.
Meddai Siân Wyn o Lanberis, aelod o Midnight Runners: "'Da ni allan bob weekend, ac ar nos Wenar a nos Sadwrn, mae pawb yn dod allan.
Da ni efo meets neu unrhyw beth maen nhw'n trio organisio, awn ni efo nhw.
Gei di ambell un neith sbwylio fo i bawb a cael y police yna, yn gwneud burnout neu codi handbrake, revio car nhw, so ma'r cops yn dod wedyn."
Ychwanega Nathan Owen, o Lanerchymedd: "Y munud ti'n deud Midnight Runners i'r police, neith hanner ohonyn nhw mynd fel hyn [rolio llygaid].
"Da ni actually wedi pacio car park yn Llandudno o'r blaen a maen na ryw 400, 500 o spaces yna. Fel da ni yna, ti'n gweld pobol yn ei bedroom yn ffilmio ni allan o'r ffenast, recordio ni'n cyrradd a recordio ni'n gadael.
"Ma nhw'n deud ar Facebook wedyn bod ni di bod yna drwy'r nos, a chwech awr o revio. Ond dim ond tair awr o stay sydd yna, da ni ddim above the law, da ni'n gwrando!
"Ond da ni'n actually gwisgo high-vis mewn meets ni, a pan mae'r police yn dod yna, ma' nhw'n actually deud diolch i ni am fod ni'n trio cadw fo'n organised. Ond even efo presence y police yna, dio ddim yn stopio nhw, mae 'na dal handbrake turn yn cael ei neud yn rwla. Di'r police ddim yn big fans o'r sîn de, whatsoever."
Dros chwe pennod, bydd y gyfres yn rhoi sylw i wahanol agweddau o ddiwylliant ceir yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys digwyddiadau ceir clasuron, ceir drifftio, ralis 'nighter' ym Mhenllŷn a digwyddiad supercars arbennig ym Miwmaris.
Gwyliwch Pen Petrol am 9.35yh ar nos Lun ar S4C. Bydd y gyfres gyfan hefyd ar gael i wylio fel bocs set ar S4C a thudalen YouTube Hansh.