31 Ionawr 2022
Mae prosiect rhwng S4C a Chyngor Sir Gâr wedi ei lansio heddiw sef Croeso Cyw gyda'r nod o ddatblygu a pheilota cynllun iaith Cyw mewn ystod o ysgolion o gefndir ieithyddol gwbwl wahanol.
Bwriad y cynllun peilot yw creu cyfleoedd cyffrous i blant sylfaen chwarae gemau a chanu gyda Cyw, a chynyddu ymwybyddiaeth o arlwy plant S4C.
Bydd hefyd yn ysgogi rhieni di-hyder i gyd-chwarae a chyd-ddysgu Cymraeg gyda'u plant a chodi ymwybyddiaeth o arlwy S4C i oedolion.
Mae dwy athrawes eisoes wedi eu penodi am gyfnod o dri mis i gydlynu'r cynllun sef Melanie Jones a Mirain Walters.
Mae Melanie yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Brynaman ac wedi bod yn dysgu am bron i ugain mlynedd.
Mae Mirain yn athrawes yn Ysgol y Ddwylan Castell Newydd Emlyn ac wedi bod yn gweithio gyda'r cyfnod sylfaen ers dros chwe mlynedd.
"Rydyn ni'n gobeithio dangos taith dysgwyr di-gymraeg wrth iddynt ddatblygu a defnyddio mwy a mwy o Gymraeg tu fewn a thus fas yr ysgol. Ein bwriad yw dangos i rieni bod dwyieithrwydd yn rhywbeth sydd yn elwa eu plant a'u haddysg." meddai Melanie
"Dwi'n gobeithio gweld plant yn datblygu a mwynhau dysgu, siarad a chyd-chwarae yn Gymraeg, fydd yn y pen draw yn help i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Dwi'n edrych mlaen i gwrdd â phobl newydd, a chyd-weithio â chwmnïau gwahanol a defnyddio technoleg i wireddu'r prosiect." ychwanegodd Mirain.
Cynllun digidol yn gyntaf fydd Croeso Cyw sy'n manteisio ar y teclynnau a'r platfformau mae teuluoedd yn mwynhau eu defnyddio bob dydd ac eisiau chwarae gyda'u plant.
Bydd y cynllun yn cyfrannu tuag at Gwricwlwm Newydd Cymru ac yn dathlu dwyieithrwydd y Gymru gyfoes.
Yn ogystal, mae'n cefnogi nod Sir Gar i gael pob plentyn yn ddwyieithog erbyn 7 oed a tharged y Llywodraeth o 1m o siaradwyr.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Ymgynghorydd Addysg S4C:
"Ry'n ni'n falch iawn o lansio Croeso Cyw heddiw ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr am eu cefnogaeth. Ein bwriad yw defnyddio brand poblogaidd Cyw i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o raglenni S4C i deuluoedd di-gymraeg.
"Rydyn ni wrth ein boddau i gael croesawu Melanie a Mirain i dîm S4C er mwyn defnyddio eu harbenigedd addysgol o fewn y cyfnod sylfaen i gydlynu'r cynllun a dathlu dwyieithrwydd ar draws Sir Gâr." Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant, y Cyng. Glynog Davies: "Rydym yn hynod falch o gael gweithio gydag S4C ar y prosiect cyffrous newydd hwn, a fydd yn fuddiol i blant a'u rhieni wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg mewn ffordd hwyliog gyda'i gilydd.
"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu Sir Gâr ddwyieithog ac amlieithog ac i gynyddu'r cyfleoedd i'n holl blant a phobl ifanc gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, er mwyn i ni allu creu cymunedau dwyieithog cryf a chynaliadwy.
"Rydym wrthi'n cwblhau ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a fydd yn llywio dyfodol addysg ddwyieithog yn Sir Gâr am y 10 mlynedd nesaf, a bydd prosiectau fel hyn yn ein helpu i gyflawni'r cynllun hwn yn llwyddiannus er budd ein pobl ifanc i gyd."
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg:
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi cefnogi'r prosiect newydd yma, sydd yn creu cyfleoedd newydd i blant oedran sylfaen ddysgu Cymraeg a hybu'r iaith yn Sir Gâr.
"Un o'n blaenoriaethau ni yw cynyddu defnydd pob dydd o'n hiaith ymhlith pobl Cymru, yn ogystal â hyrwyddo dysgu Cymraeg.
"Rwy'n falch felly i weld sut bydd y peilot yn ceisio ysgogi rhieni i ddefnyddio'r Gymraeg drwy gyd-ddysgu a chwarae gyda'u plant."