S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Taro’r 100,000 – dechreuad cryf i dymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C

16 Chwefror 2022

Fe ddenwyd dros 100,000 o sesiynau gwylio i sianeli digidol S4C ar gyfer pedair gêm rygbi ar-lein gyntaf y tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo.

Er gwaethaf effaith y pandemig ar y tymor, mae cynulleidfa sylweddol yn gwylio'r gemau byw nos Iau ar S4C Clic, YouTube a Facebook. Roedd dros 108,000 o sesiynau gwylio yn ystod y pedair gêm gyntaf, gyda'r cynnwys yn cael eu wylio am gyfanswm o 11,399 o oriau.

Mae clipiau cyfryngau cymdeithasol ar gyfrifon S4C Chwaraeon hefyd wedi bod yn boblogaidd, gyda clip o gais mewnwr Aberafan, Rhodri Lewis, yn erbyn Abertawe, yn cael ei wylio dros 80,000 o weithiau.

Dywedodd Rhodri Lewis: "Roedd e'n deimlad anhygoel yn sgorio nid yn unig fy nghais cyntaf i'r Dewiniaid ond cais fel 'na yn y Talbot Athletic ac o flaen y cefnogwyr cartref.

"Mae'r cais wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi fynegi fy hun ar y cae, boed hynny gydag Aberafan neu'r Gweilch, a gobeithio y gallaf barhau i greu pethau fel hyn yn rheolaidd."

Lauren Jenkins sydd yn cyflwyno'r gemau Indigo Prem, gyda Rhys ap Wiliam a Phil Steele yn rhan o'r tîm sylwebu.

Mae sawl chwaraewr rhyngwladol o'r presennol a gorffennol wedi dadansoddi'r gemau yn ogystal, gan gynnwys Ken Owens, Sioned Harries, James Hook, Nicky Robinson ac Andrew Coombs.

Meddai Lauren Jenkins: "Rydyn ni wedi mwynhau gornestau cofiadwy a cheisiau ardderchog y tymor hwn hyd yma, gyda chais Rhodri Lewis yn erbyn Abertawe yn un o'r uchafbwyntiau.

"Mae gemau byw nos Iau yn cychwyn y penwythnos rygbi ac mae teimlad arbennig gwylio'r gemau o dan y llifoleuadau. Mae'r pandemig wedi amharu ychydig ar y tymor ond mae'n ddyddiau cynnar iawn dal i fod ac mae lot fawr o rygbi i'w fwynhau rhwng nawr a diwedd y tymor."

Bydd gemau byw Indigo Prem yn parhau ar nos Iau 17 Chwefror gyda Chasnewydd v Pontypridd, gyda'r gic gyntaf am 7.30pm.

Mae'r set nesaf o gemau hefyd wedi ei gadarnhau, gyda Glyn Ebwy v Casnewydd yn cael ei ddangos ar nos Iau 24 Chwefror, Abertawe v Llanymddyfri ar nos Iau 3 Mawrth a Pen-y-bont v Pontypridd ar nos Iau 17 Mawrth.

Bydd uchafbwyntiau o'r holl gemau yn cael eu dangos yn dilyn bob penwythnos ar sianel YouTube S4C.

Gemau byw ar-lein

Nos Iau 17 Chwefror - Casnewydd v Pontypridd - 7.30yh

Nos Iau 24 Chwefror - Glyn Ebwy v Casnewydd - 7.30yh

Nos Iau 3 Mawrth - Abertawe v Llanymddyfri - 7.30yh

Nos Iau 17 Mawrth - Pen-y-bont v Pontypridd - 7.30yh

Sut i wylio gemau byw Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar-lein

Gallwch wylio'r gemau yn fyw ar-lein ar wasanaeth digidol S4C Clic, ar unrhyw ddyfais glyfar neu ar eich cyfrifiadur, drwy fynd i www.s4c.cymru/clic, neu drwy lawrlwytho'r ap S4C Clic; ar App Store ar ddyfais Apple, neu Google Play ar ddyfais Android. Mae modd gwylio'r gemau ar deledu clyfar neu gyda ddyfais teledu glyfar (fel Amazon Firestick), drwy fynd i dudalen YouTube S4C.

Bydd y gemau hefyd yn cael eu dangos ar dudalen Facebook S4C Chwaraeon, ar www.facebook.com/s4cchwaraeon, tudalen Facebook Undeb Rygbi Cymru, www.facebook.com/welshrugbyunion, neu ar dudalen YouTube S4C, ar www.youtube.com/s4c.

Mae angen creu cyfrif i gael mynediad i S4C Clic. Mae'n hawdd creu cyfrif ac yn rhad-ac-am-ddim.

Ewch i www.s4c.cymru/clic a chliciwch ar 'Cofrestrwch Nawr'. Yna bydd angen rhoi eich enw, cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair dewisol, a chlicio 'Nesa'. Bydd hynny yn danfon e-bost at eich cyfeiriad e-bost, ble fydd angen i chi glicio ar y ddolen i gadarnhau'r cyfrif, ac yna bydd eich cyfrif yn fyw a byddwch chi'n barod i wylio.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?