Y Wasg

Y Wasg

Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2022

17 Chwefror 2022

Wrth i Cân i Gymru 2022 agosáu, mae'n amser cyhoeddi'r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth fwyaf ddisgwyliedig Cymru.

Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth fawreddog a fydd yn cael ei darlledu yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar nos Wener, y 4ydd o Fawrth.

Y panel o arbenigwyr sydd wedi dewis yr wyth can sydd ar y rhestr fer yw Dafydd Iwan, Betsan Haf Evans, Lily Beau ac Elidyr Glyn.

"Difyr iawn oedd cael bod ar y panel eleni, a hynny flynyddoedd lawer ers i mi gael y fraint o'r blaen. Yr argraff ges i oedd bod y safon wedi codi gryn dipyn, a'r amrywiaeth yn rhyfeddol," meddai Dafydd Iwan, y cerddor eiconig sydd ar fin dathlu 60 mlynedd yn y diwydiant.

"O ystyried mai cynnyrch amser hamdden yw'r caneuon hyn, a bod yna lawer o gyfansoddwyr na fyddai byth am gystadlu, mae gennym le i ymfalchïo fel Cymry yn ein creadigrwydd, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed y rownd derfynol."

Mae Elidyr Glyn, enillydd Cân i Gymru 2019, hefyd yn gyffrous: "Mae hi'n fraint cael gwahoddiad i gymryd rhan fel beirniad, a 'dw i'n falch iawn o dderbyn y cyfle hwn i gyfrannu.

"Ar ôl cael cymryd rhan yn y broses o ddewis caneuon ar gyfer rhan ola'r gystadleuaeth, rwy'n awyddus iawn i glywed barn y cyhoedd wrth iddynt bleidleisio am yr enillydd.

"Mae amrywiaeth eang wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni - a dweud y gwir roedd llawer mwy o ganeuon a fuasai hefyd wedi gallu cael lle haeddiannol ar y rhaglen. 'Dw i'n amau y tro hyn y bydd hi'n rhaglen ble bydd gan lawer o bobl fwy nag un ffefryn, ac felly o bosib bydd hi'n gystadleuaeth agos.

"Dw i'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o'r noson unwaith eto, ac yn dymuno pob lwc i bob un o'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr."

Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu am y siawns i ennill £5,000 a theitl Cân i Gymru 2022, yw:

1. Rhyfedd o Fyd gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Geiriau gan Emlyn Gomer Roberts. Elain Llwyd yn perfformio.

2. Cana dy Gân gan Geth Tomos, geiriau gan Geth Robyns. Rhys Owain Edwards yn perfformio.

3. Paid Newid dy Liw gan Mali Hâf a Trystan Hughes. Mali Hâf yn perfformio.

4. Ymhlith y Cewri gan Darren Bolger.

5. Diolch am y Tân gan Carys Eleri a Branwen Munn. FFLOW yn perfformio.

6. Pan Ddaw'r Byd i Ben gan Steve Williams.

7. Mae yna Le gan Rhydian Meilir. Ryland Teifi yn perfformio.

8. Rhiannon gan Siôn Rickard.

Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw'u pleidlais dros y ffôn.

Manylion pleidleisio a thaflen sgôr .

Mae S4C hefyd yn paratoi rhestr chwarae o gyn-enillwyr, fydd ar gael i'w wylio ar sianel YouTube S4C o ddydd Sul 27 Chwefror.

Nodiadau

1. Rhyfedd o Fyd gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Geiriau gan Emlyn Gomer Roberts. Elain Llwyd yn perfformio.

Mae Elfed, sy'n Bennaeth ar Ysgol Llandygai, eisoes wedi cyfansoddi can fuddugol sef y gân Gofidiau, a enillodd y gystadleuaeth yn 2009. Mae Carys hefyd wedi cael llwyddiant nôl yn 2002, pan wnaeth y gân Rhy Gry a gyfansoddwyd ar y cyd gydag Emyr Rhys ddod yn ail. Emlyn, cyn aelod o'r band Gwerinos, awdur sy'n byw yng Nghaernarfon gafodd y dasg o lunio'r geiriau i'r gân a ysbrydolwyd gan sut mae natur wedi ffynnu tra bod ganddo ôl dyn arni. Elain Llwyd sy'n perfformio.

2. Cana dy Gân gan Geth Tomos, geiriau gan Geth Robyns. Rhys Owain Edwards yn perfformio.

Mae Geth Tomos yn athro cerdd yng Nghanolfan Addysg y Bont, Llangefni, ac mae wedi cyd-weithio gydag athro arall o Ysgol Llanfawr, Caergybi i greu cân roc. Mae geiriau Geth Robyns, yn ein hannog i sefyll i fyny dros yr hun rydym yn ei gredu ac i warchod yr hyn sydd o'n gwmpas. Rhys Owain Edwards o'r band Fleur De Lys fydd yn perfformio.

3. Paid Newid dy Liw gan Mali Hâf a Trystan Hughes. Mali Hâf yn perfformio.

Natur â phrydferthwch y byd yw thema Paid Newid dy Liw, cân soul / pop sy'n cael ei pherfformio gan Mali Hâf o Gaerdydd. Mae Trystan o Gymoedd Abertawe yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn chwarae gitâr i fand Mali Hâf. Cystadlodd Mali yn Cân i Gymru 2019 o dan yr enw Mali Melyn gyda'r gân Aros Funud.

4. Ymhlith y Cewri gan Darren Bolger.

Y tro hyn, bydd Darren, sy'n saer maen o Gellilydan, yn perfformio'r gân y mae wedi cyfansoddi. Roedd ei gân O'r Brwnt a'r Baw yn un o'r wyth olaf yn Cân i Gymru 2015, gyda Cy Jones yn perfformio. Mae Ymhlith y Cewri yn pwysleisio rôl y genhedlaeth hŷn mewn arwain y ffordd mewn byd o ddatblygiadau a newid technolegol a meddyliol.

5. Diolch am y Tân gan Carys Eleri a Branwen Munn. FFLOW yn perfformio.

Collodd Carys - actores, cyflwynydd ac awdur - ei thad o'r cyflwr motor niwron yn 2017. Cyfansoddwyd Diolch am y Tân ar y dydd y byddai ef wedi troi yn 70, fel dathliad o'i fywyd. FFLOW, sef band newydd Carys a Branwen fydd yn perfformio ar y noson. Mae'r ddwy yn byw yng Ngorllewin Cymru ac wedi cyd-weithio ar sioe un fenyw Carys, sef Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) a hefyd ar y sengl ddiweddar, Don't Tell the Bees.

6. Pan Ddaw'r Byd i Ben gan Steve Williams.

Daeth ysbrydoliaeth y gân o ddigwyddiadau COP-26, a trwy ei berfformiad mae Steve yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ar newid hinsawdd. O ddydd i ddydd mae Steve yn gweithio fel ditectif i Heddlu Dyfed Powys yn Y Drenewydd. Cyrhaeddodd yr wyth olaf llynedd gyda'i gân Yr Arlywydd.

7. Mae yna Le gan Rhydian Meilir. Ryland Teifi yn perfformio.

Mae Rhydian, o Gemaes ger Machynlleth, yn wyneb cyfarwydd iawn i Cân i Gymru. Mae wedi cyrraedd y rhestr fer yn 2012 gyda Cynnal y Fflam, yn 2019 gyda Gewn ni Weld Sut Eith Hi a llwyddodd gyfansoddi dwy gân ar restr fer 2020, sef Pan Fyddai'n 80 Oed a Tir a'r Môr. Ryland Teifi fydd yn perfformio'r gân, sy'n deyrnged i natur a phrydferthwch y byd.

8. Rhiannon gan Siôn Rickard.

Siôn fydd yn perfformio'r gan serch 'sexy' hon, sy'n deyrnged i'w gariad, Rhiannon. Yn wreiddiol o Fetws y Coed, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Siôn yn un hanner o'r band gwerinol Lo-fi Jones, gyda'i frawd Liam Rickard.