S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhedeg ar draws y wlad! David yn anelu i gwblhau pob parkrun yng Nghymru

13 Mai 2022

Mae gŵr o Gaerffili wedi gosod her unigryw i'w hun – i gwblhau pob parkrun yng Nghymru.

Fe benderfynodd David Roberts o Gaerffili, sydd yn dad i ddau o blant ac yn gweithio fel dirprwy brifathro yn Ysgol Heol y Celyn yn Rhydyfelin, osod yr her rhedeg yma iddo'i hun nôl yn 2019.

Ar ôl serennu fel arweinydd yng nghyfres FFIT Cymru ar S4C, gan golli tair stôn a 11 pwys mewn saith wythnos, fe benderfynodd David i barhau i wella ei ffitrwydd ac iechyd drwy redeg 5k yn rheolaidd mewn digwyddiadau parkrun ar fore Sadwrn.

Daeth ei parkrun cyntaf yn ystod y gyfres, sef yr Her 5k FFIT Cymru parkrun yn Niwbwrch, Ynys Môn, ac ers hynny, mae David bellach wedi rhedeg mewn 40 parkrun gwahanol ledled Cymru. Nawr mae'r pedair ras olaf o fewn ei gyrraedd.

Meddai David: "Dw i wedi gwneud 40 o rai gwahanol, felly mae 4 gen i, i fynd. Dw i'n gobeithio gorffen nhw dros yr haf eleni. Nes i wneud yr Her 5K FFIT Cymru yn Niwbwrch, ac ychydig o wythnosau wedyn roedd fy ffrindiau yn rhedeg ym Mhontypridd, felly wnes i redeg yn hwnna gyda nhw.

"Wedyn nes i redeg yr un lleol i mi, ym Mhenallta, ac ar gwblhau'r tri yna nes i benderfynu, 'reit, dwi am wneud y cwbl lot!' Mae 'na 11 o bobl wedi cwblhau pob un yng Nghymru, ond dw i'n gobeithio ymuno â nhw yn fuan. Mae'n grêt i osod target i dy hun ac i fynd amdani. Dwi ddim yn poeni gymaint am yr amser, ond cwblhau'r rhediad a mwynhau, dyna sy'n bwysig i mi."

Mae David, sydd yn dod o Landudno yn wreiddiol, yn gobeithio gorffen yr her gyda parkrun Conwy, sydd yn rhannu'r un llwybr oedd ei daid yn arfer cerdded arno ar y ffordd i'r siop. Ond pa rai sy'n sefyll allan iddo hyd yma?

"Y rhai dwi'n hoffi fwyaf ydi'r rhai fflat!," ychwanega David, sydd hefyd yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam. "Y rhai dwi ddim yn hoffi ydi Cei Connah a Choed Cefn Pwll-du ym Machen, oherwydd maen nhw'n ddiawledig o fyny ac i lawr, a dwi ddim yn dda efo bryniau. Yr un dwi'n hoffi fwyaf ydi'r un cyntaf nes i yn Niwbwrch, sydd yn rhedeg heibio Ynys Llanddwyn a drwy'r coed. Mae 'na lot o rhai neis, da ni'n lwcus yng Nghymru fod 'na lefydd mor fendigedig i redeg. Mae'n ffordd hyfryd o weld y wlad."

Mae'r agwedd David tuag at ei ffitrwydd a iechyd yn dra gwahanol i sut oedd yn 2019, pan gafodd ei rybuddio gan feddygon fod ei bwysau gwaed yn hynod o uchel a bod tebygolrwydd uchel y byddai'n dioddef strôc.

Ychwanega David: "Fyswn i ddim wedi gwneud parkrun oni bai am FFIT Cymru. Mae o'n dipyn bach o cliché, ond mi wnaeth FFIT Cymru achub fy mywyd i, dwi wir yn credu hynny. Fyswn i wedi cael strôc oni bai am FFIT Cymru. Mi wnaeth o drawsnewid bob dim i mi."

Meddai Chris Davies, llysgennad ar gyfer parkrun Cymru: "Mae'n ffantastig i glywed sut mae David wedi parhau i wella ei iechyd a ffitrwydd. Rydyn ni'n hynod o falch bod cymryd rhan mewn parkrun bob wythnos wedi cyfranu mor bositif tuag at y trawsnewid yma, i'r graddau bod ei siwrnai ffitrwydd wedi ei dywys i bron holl ddigwyddiadau parkrun yng Nghymru.

"Mae fwy o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu drwy'r adeg, felly mi fyddan ni'n sicr yn gosod heriau newydd iddo yn y dyfodol."

Mi fydd Her 5k FFIT Cymru parkrun yn cymryd lle ar fore Sadwrn 14 Mai mewn digwyddiadau parkrun ar draws y wlad.

Os hoffwch chi gymryd rhan, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru am ragor o fanylion, a rhannwch eich lluniau a fideos o'r digwyddiadau gyda @ffitcymru ar y cyfryngau cymdeithasol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?