S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pwy sy’n galw? Y sengl newydd sydd â neges glir am rap Cymreig

20 Mai 2022

Er y bydd wynebau Lloyd Lewis a Dom James yn adnabyddus i rai fel cyfranwyr Hansh, bydd eu prosiect diweddaraf ar y sgrin - sef fideo i'w sengl newydd, Pwy sy'n Galw?, tipyn yn wahanol.

Gyda cherddoriaeth yn elfen bwysig o fywydau'r ddau erioed, mae cyrraedd y nod o ryddhau eu hail sengl, Pwy sy'n Galw?, heddiw (20 Mai) yn achlysur i'w ddathlu.

Ac mae platfform cerddoriaeth S4C, Lŵp, wedi ychwanegu i'r cyffro trwy gynhyrchu fideo i gyd-fynd â'r trac.

Cân rap yw Pwy sy'n Galw?, "genre sydd wedi ei dangynrychioli yn y Gymraeg" yn ôl Lloyd.

A thrwy gynhyrchu cân fachog, llawn curiadau yn yr iaith Gymraeg, maent yn gobeithio mynd a'r iaith yn bell.

Dywedodd Dom James, sy'n dod o Gaerdydd: "Nes i estyn mas i Lloyd nôl yn 2017 i ofyn iddo gyd-weithio 'da fi ar gerddoriaeth. Mi wnes i ddysgu Cymraeg yn ystod fy amser yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd a Lloyd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl.

"Ers hynny, mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i'r ddau o ni, felly roedd cyfuno'r iaith a cherddoriaeth yn bwysig hefyd."

Yn ôl Lloyd, sydd o Gwmbran: "Roedd Dom eisoes yn gwneud cerddoriaeth gyda Don (Donald Phythian), sydd bellach yn DJ a chynhyrchydd i ni.

Naethon ni greu ein can gyntaf Cymraeg, Sawl Tro, tua blwyddyn yn ôl i berfformio ar raglen Lŵp Curadur Lemfreck.

"Roedd yr ymateb yn anhygoel felly o'n ni'n gwybod roedd bendant lle i ni greu mwy o rap Cymraeg. Penderfynon ni ffocysu ar neud cwpl o ganeuon Cymraeg a dyna lle ddaeth Pwy Sy'n Galw? i fodolaeth."

Er nad oedd y trac wedi ei ryddhau ar blatfformau ffrydio eto, fe wnaeth ddenu sylw un o DJ's mwyaf dylanwadol Cymru, Huw Stephens: "Pan nes i chwarae Pwy Sy'n Galw? ar BBC Radio Cymru, gath y gân yr ymateb gore o unrhyw gân fi wedi chwarae ar y sioe mewn blynyddoedd" meddai Huw.

"Roedd cerddorion, ffans a hyrwyddwyr yn cysylltu yn gofyn; ble alla'i gael y gân yna?! Mae'n wych, a gallai wir ddim aros i glywed be maen nhw'n 'neud nesa."

"Ar ôl ymateb gwych i'r gân o'n ni'n gwybod bod rhaid neud fideo" ychwanegodd Lloyd.

"Wnaeth Lŵp S4C gytuno i helpu ni. Cefais i'r syniad i'r fideo gael ei osod mewn call centre - a wnaeth Owain yn Orchard (cwmni cynhyrchu) helpu i ddatblygu ein syniad.

"Roedd e'n lot o hwyl yn creu'r fideo a fi'n meddwl bod hwnna yn dod ar draws wrth wylio fe."

Fideo Lŵp Pwy sy'n galw?

Yn wir, mae bron yn amhosib peidio symud gyda'r gân, ond mae hefyd yn anfon neges deimladwy am yr iaith gyda llinellau fel: "Heb iaith 'does dim calon", "sefyllfa wedi gwthio fi i godi'r safon" a "teimlo fel Cymro ffug".

Yn dilyn llwyddiant y trac, beth yw'r cam nesa i Lloyd a Dom James?

"Dechrau ein siwrne yw Pwy Sy'n Galw?" meddai Lloyd.

"Bwriad ni fel triawd yw i cario 'mlaen creu a rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg a gweld pa mor bell allwn ni fynd ag e.

"Mae gyda ni lot o ddigwyddiadau a sets yn yr haf i edrych ymlaen i - mae'r dyfodol yn gyffrous."

Felly gwyliwch y gofod - bydd siŵr o fod galw mawr am fwy o draciau gan Lloyd a Dom James, yn y cyfamser mwynhewch fideo Pwy Sy'n Galw? ar sianel YouTube Lŵp S4C .

Sawl Tro, YouTube Lŵp Curadur

Lŵp Curadur: Lemfreck ar S4C Clic

YouTube Lŵp S4C

Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?