S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​"Un o'r achosion gwaethaf i fi weithio arno," swyddogion Heddlu De Cymru yn ymateb i farwolaeth Logan Mwangi

24 Mehefin 2022

Am 5.46yb ar ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2021, fe wnaeth mam o Ben-y-bont ar Ogwr alwad ffôn i'r heddlu, gan roi gwybod iddynt fod ei mab pum mlwydd oed ar goll.

Erbyn hyn, gwyddom fod y fam, Angharad Williamson, yn un o dri sydd wedi eu canfod yn euog am achosi marwolaeth y bachgen, Logan Mwangi.

Ar ôl i'r tri diffynnydd gael eu dedfrydu ar ddydd Iau, 30 Mehefin, bydd rhaglen ddogfen S4C, Llofruddiaeth Logan Mwangi, yn agor cil y drws ar ymchwiliad heddlu le'r oedd pob eiliad yn cyfri wrth chwilio am dystiolaeth.

Mae mynediad at deledu cylch cyfyng, lluniau camerâu corff, datganiadau tystion a chyfweliadau heddlu yn dangos sut y llwyddodd yr heddlu i greu darlun o'r hyn ddigwyddodd cyn ac ar ôl marwolaeth Logan er mwyn dod a'r diffynyddion o flaen eu gwell.

Mwy i ddilyn. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru ar ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022.

28 Mehefin 2022 - Diweddariad

Am 5.46yb ar ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf 2021, fe wnaeth mam o Ben-y-bont ar Ogwr alwad ffôn i'r heddlu, gan roi gwybod iddynt fod ei mab pum mlwydd oed ar goll.

Mae recordiadau ffôn yr heddlu yn dal ei llais yn sgrechian: "Plîs helpwch fi, helpwch fi, plîs. Mae fy mab ar goll. Helpwch fi, fy mabi i."

Wrth i'r newyddion trist am dynged y bachgen ddod i'r amlwg, mae ei enw - Logan Mwangi, wedi dod yn gyfarwydd mewn penawdau newyddion.

Gwyddom hefyd erbyn hyn fod y fam, Angharad Williamson, yn un o dri sydd wedi eu canfod yn euog am achosi'r farwolaeth drasig.

Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Llofruddiaeth Logan Mwangi, yn agor cil y drws ar ymchwiliad le'r oedd pob eiliad yn cyfri wrth chwilio am dystiolaeth.

"Mae hwn yn un o'r cases gwaethaf i fi weithio arno" meddai DS Ed Griffith, un o'r ditectifs fu'n arwain yr ymchwiliad. "Deg allan o ddeg ar y scale i ddweud y gwir. Bydd hwn yn fy meddwl am byth".

Cafodd yr uned Troseddau Difrifol eu galw i mewn bron ar unwaith gan fod amgylchiadau amheus i'r achos.

Dywedodd y Swyddog Cyflwyno Tystiolaeth, Huw Griffiths: "O'r cychwyn, chi'n dechrau meddwl, wel mae hwn yn anghyffredin. Dyw plant pum mlwydd oed ddim yn tueddu mynd allan o'r tŷ am dri, pedwar, pump o'r gloch y bore - crwydro mas ac wedyn mynd mewn i'r afon."

"Pam chi'n cael tri yn y ddalfa, ry ni'n edrych a chymharu beth maen nhw'n deud, ac edrych am provable lies.

"Roedd pedwar yn y tŷ. Yn drist iawn 'roedd un wedi marw. Roedd hwnna'n gadael tri ar ôl.

"Nawr oedd un ohonyn nhw wedi neud e? Oedd dau wedi neud e, neu oedd y tri gyda'i gilydd yn gyfrifol am lofruddiaeth Logan Mwangi?."

Mae'r rhaglen yn datgelu sut lwyddodd yr heddlu, o dan arweiniad DCI Mark O'Shea a DI Lianne Rees, i ddefnyddio cyfuniad o sgil, penderfyniad ac elfennau o lwc i ddod ag Angharad Williamson, ei phartner John Cole a llanc ifanc na ellir ei enwi o flaen eu gwell.

Mae'n gyfle prin i ddilyn ymchwiliad llofruddiaeth proffil uchel o'r funud y galwyd yr heddlu a thros yr oriau tyngedfennol a ddilynodd.

Cawn fynediad ecsgliwsif i'r lluniau teledu cylch cyfyng ac i ddatganiadau'r tystion a alluogodd Heddlu De Cymru i ddatod celwyddau'r amddiffynwyr ac i lunio amserlen o'r hyn ddigwyddodd cyn ac ar ôl marwolaeth Logan.

Mae lluniau camerâu corff swyddogion yr heddlu yn dogfennu popeth ac mae swyddogion yn adrodd yn fanwl ar yr ymchwiliad wrth iddo ddatblygu.

Cawn fanylion y gwaith fforensig manwl sy'n galluogi'r heddlu i greu darlun o beth ddigwyddodd i Logan yn ystod oriau olaf ei fywyd.

Mae'r ddogfen yn dangos y tri diffynnydd wrth iddynt gael eu harestio yn ogystal â chyfweliadau allweddol Williamson a Cole.

Rydym hyd yn oed yn gweld yr eiliad mae Williamson yn newid ei stori yn gyfan gwbl, ar ôl i dystiolaeth ddamniol gael ei gyflwyno.

Hefyd, dilynwn yr heddlu ar daith ddirdynnol i rannu adroddiad y patholegydd gyda thad Logan, Ben Mwangi.

Yn yr adroddiad mae manylion yr anafiadau a arweiniodd at farwolaeth ei fab - mae'n nodi bod gan Logan siawns o 80% o oroesi, pe bai wedi cael cymorth meddygol mewn pryd.

Mewn tro trwstan arall, mae Mr Mwangi yn datgelu sut yr oedd Williamson wedi ei atal rhag gweld ei fab ac wedi blocio ei rif o'i ffon symudol.

"Os gallaf atal hyn rhag digwydd i unrhyw un arall yna bydd un peth positif yn dod o hyn, ar wahân i gyfiawnder i Logan" meddai Mr Mwangi.

Llofruddiaeth Logan Mwangi

Dydd Iau 30 Mehefin, 9.00 Isdeitlau Saesneg

Ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Multistory Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?