S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gweld cynnydd pellach mewn arferion gwylio aml lwyfan

20 Gorffennaf 2022

Mae S4C wedi gweld twf pellach mewn cynulleidfaoedd sy'n defnyddio ei gwasanaethau dal i fyny, gyda chynnydd o 11.6% y flwyddyn yn y sesiynau gwylio ar ei chwaraewyr.

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C am y flwyddyn 2021-22 nododd y darlledwr hefyd y bydd buddsoddi helaeth mewn llwyfannau gwylio newydd, ac y byddant yn cyflwyno dulliau newydd o fesur y niferoedd sy'n troi at S4C ar y llwyfannau hynny.

Llwyddodd prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ar draws Facebook, Twitter ac YouTube sicrhau eu horiau gwylio uchaf erioed yn 2021–22, gan gofnodi cynnydd o 42% flwyddyn ar flwyddyn. Yn ystod 2021–22 hefyd, gwyliwyd 366,300 awr o gynnwys ar draws sianeli S4C ar YouTube – cynnydd o 13.5% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C:

"Roedd 2021–22 yn gyfnod o newid unwaith eto i S4C - fe barhaodd y pandemig i effeithio ar ein gweithgareddau ni a'r sector yn ehangach wrth i ni ymateb i newidiadau yng nghyfyngiadau Covid yn ystod y flwyddyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r sector gynhyrchu a staff S4C am eu gwaith diflino wrth addasu yn ystod y pandemig.

"Mae nifer o'r arferion gwylio ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig yn parhau. Yn sicr mae S4C yn dilyn arferion y farchnad, a chynyddu'r defnydd o'n cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau fydd y nod dros y blynyddoedd nesaf. Mae dros 271,000 bellach wedi cofrestru i wylio ar S4C Clic, ac mae rhaglenni plant, chwaraeon a drama yn arwain y ffordd."

Ychwanegodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:

"Wrth i ni barhau i symud tuag at gyhoeddi ar wahanol lwyfannau a gwasanaethau gwylio newydd, byddwn yn adolygu ein mesuryddion i sicrhau ein bod yn deall y tueddiadau gwylio diweddaraf, er mwyn caniatáu i ni dargedu a phersonoli ein cynnwys i'r gynulleidfa briodol.

"Wrth edrych at y dyfodol, byddwn yn dal i ddod â chynnwys beiddgar i Gymru ac adlewyrchu prif ddigwyddiadau o Gymru i boblogaeth Cymru a thu hwnt. Rydym am i S4C fod yn gartref i brofiadau cenedlaethol Cymru, gyda'n cynnwys yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan helpu'r Gymraeg i ffynnu yng Nghymru, y DU a'r farchnad fyd-eang."

Mae nifer o raglenni gwreiddiol a newydd, a ddatblygwyd yma yng Nghymru ar gyfer S4C, wedi ennill gwobrwyon ac wedi cael eu hallforio ledled y byd dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys Am Dro, sydd wedi ei werthu i dros chwe gwlad yn Ewrop yn ogystal â BBC Two, Gwesty Aduniad, sydd bellach yn cael ei gynhyrchu ar gyfer darlledu ar rwydwaith y BBC a Tŷ am Ddim, sy'n gyd-gynhyrchiad gyda Channel 4 a enillodd dair gwobr yn ystod 2021–22 gan gynnwys y 'Rhaglen Ddydd Orau' yng ngwobrau Broadcast, RTS, a BAFTA.

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd y bydd S4C, wrth wireddu ei strategaeth newydd, yn sicrhau bod S4C yn gartref i bawb – waeth pwy ydyn nhw neu a ydyn nhw'n siarad yr iaith Gymraeg neu beidio; gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ar draws pob math o aelwydydd. Bydd yr arlwy yn cynnig rhywbeth i bawb, ac ar gael i bawb drwy ddefnyddio dulliau megis is-deitlo sy'n ei gwneud hi'n haws i wylwyr newydd yng Nghymru a thu hwnt fwynhau y cynnwys. Bydd pwyslais ar gynyddu is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar draws S4C, fel gall unrhyw un fwynhau y cynnwys, beth bynnag eu cefndir.

Mae copi o'r Adroddiad Blynyddol i'w weld yma

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?