S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

27 o enwebiadau i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni

7 Medi 2022

Mae S4C wedi llwyddo i gael 27 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Mercher 7 Medi 2022.

Llwyddodd S4C i gipio pob un enwebiad yn y categori Rhaglen Adloniant gyda 6 Gwlad Shane ac Ieuan (Orchard), cyfres boblogaidd Am Dro (Cardiff Productions), Bwyd Byd Epic Chris (Cwmni Da) a fformat llwyddiannus Iaith ar Daith (Boom Cymru).

Cipiodd S4C bob enwebiad hefyd yn y categori plant gyda chyfres Bex (Ceidiog), Deian a Loli (Cwmni Da), Efaciwis (Wildflame) a Hei Hanes (Cwmni Da).

Daeth llwyddiant hefyd i gyflwynwyr S4C gyda Chris Roberts yn derbyn enwebiad am ei gyfres Bwyd Epic Chris (Cwmni Da), Elin Fflur am ei gwaith ar Sgwrs Dan y Lloer (Tinopolis) a Jason Mohammad am ei raglen DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad (Hall of Mirrors).

Enillodd Cwmni Darlun ddwy enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol am ei cyfres twymgalon Gwesty Aduniad, yn ogystal a chyfres gignoeth bry ar y wal Ysgol Ni: Moelwyn.

Llwyddodd cyfres ddrama Yr Amgueddfa (Boom Cymru) i ennill enwebiad yn y categori Drama Deledu, a llwyddodd dwy o raglenni dogfen S4C i gael enwebiad yn y categori Dogfen Sengl sef John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame) ac Y Parchedig Emyr Ddrwg (Docshed).

Cafodd rhaglen bwerus Covid, y Jab a Ni (Cloud Break Pictures) enwebiad yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes a cafodd Lemarl Freckleton enwebiad yn y categori Torri Trwodd am raglen Curadur (Orchard).

Daeth llwyddiant i'r ffilm bwerus Grav (Regan Developments/ Tarian) hefyd gyda enwebiad yn y categori Ffilm Deledu, enwebiad i Owen Thomas yn y categori Awdur ac i Ryan Eddleston yn y categori Ffotograffiaeth a Goleuo.

Yn ogystal cafodd Dylan Williams enwebiad yn y categori Cyfarwyddwr Ffeithiol am ei waith ar Men Who Sing/ Y Côr (Cwmni Da), Alun Edwards enwebiad yn y categori Golygu Ffeithiol am ei waith ar John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame), Urien Deiniol yn y categori Golygu Ffuglen am ei gwaith ar Enid a Lucy (Boom Cymru) a Mei Williams yn y categori Ffotograffiaeth Ffeithiol am ei waith ar Peter Moore: Dyn Mewn Du (Kailash Films).

Hefyd enwebwyd John Markam yn y categori Sain am ei waith ar Cyngerdd Tangnefedd Llangollen (Rondo Media) a John Gillanders yn y categori Golygu Ffeithiol am ei waith ar raglen Huw Edwards yn 60 (Rondo Media)

Wrth longyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad, dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin Williams: "Rydyn ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2022.

"Mae'r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre, ac yn dathlu rhaglenni plant, drama, ffeithiol, adloniant a materion cyfoes."

"Dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo fis nesaf."

Cynhelir y seremoni yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd Nos Sul 9 Hydref 2022.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?