S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Drama S4C, Dal y Mellt, yn ddihangfa mewn Bocs Set

22 Medi 2022

Mae S4C wedi cyhoeddi bydd ei chyfres ddrama nesaf, Dal y Mellt, yn cael ei ryddhau fel Bocs Set ar S4C Clic a BBC iPlayer ar ddydd Sul 2 Hydref.

Bydd y ddrama hefyd yn cael ei darlledu yn wythnosol o nos Sul 2 Hydref ymlaen, ond bydd modd mwynhau'r gyfres yn ei chyfanrwydd trwy wylio'n ddigidol.

Trosiad o nofel o'r un enw yw Dal y Mellt. Meddai awdur y nofel a'r sgript, yr actor a pherfformiwr Iwan 'Iwcs' Roberts: "Mae pobl wedi cymharu'r gyfres hefo Peaky Blinders neu waith Guy Ritchie, ond dwi'n grediniol fod hi'n sefyll ar ei thraed ei hun, fel mellten.

"Mae'n ffyrnig, ffraeth a chyffrous. Mae'n stori llawn bywyd, bwrlwm, emosiwn, dirgelwch a chyffro."

Mae'r cyfarwyddwr Huw Chiswell a cynhyrchydd Llŷr Morus wedi llwyddo dod â'r cyfan yn fyw tra'n cadw'n dryw i'r nofel - gan gynnwys y tafodiaith liwgar llawn idiomau a rhegfeydd.

Vox Pictures sy'n cynhyrchu.

Wrth ddilyn hynt a helynt sawl cymeriad lliwgar trwy'r llon a'r lleddf mae'n dod yn amlwg fod un ffactor grymus ac anhysbys yn uno'r criw brith - y cwestiwn mawr yw, beth?

"Dwi ddim yn meddwl fod dim byd fel hyn wedi bod ar S4C, erioed" meddai Gwïon Morris Jones, actor ifanc ac addawol o Ynys Môn sy'n chwarae'r brif ran, Carbo.

"Mae wedi'i gynhyrchu mewn ffordd sy'n fwy tebyg i ffilm Hollywood.

"Pryd weloch chi rhywun yn hongian oddi ar graen ar S4C ddiwethaf?

"Yn ogystal â stunts, mae 'na gangs, lladrata a cheir sydyn".

Yn ogystal â chymryd her actio prif gymeriad ymlaen, ac yntau "newydd raddio o'r Central School of Speech and Drama" yn Llundain, penderfynodd Gwïon rhoi cynnig ar wneud ei styntiau ei hun hefyd.

"Dwi'n dipyn o foi am antur. Yn fy amser rhydd, dwi'n mwynhau mynd bouldering, sef dringo heb raffau a mynydda.

"Mi oedd gen i ddybl, Alex, ac un bore oedd o yno yn hongian ben i waered o graen mawr.

"Meddyliais, ella i neud hynna - felly nes i ofyn, 'Gai go?'. Os oedd angen siarad leins wrth fod upside down, o ni'n meddwl gwell bod upside down felly, i fi gael gwneud o'n iawn."

Yn gwmni i Gwïon, mae cast eang ac anhygoel.

Mark Lewis Jones yw Mici Ffin, Graham Land sy'n chwarae Les gyda Siw Hughes yn chware ei fam, Meri-Jên.

Mae Dyfan Roberts yn dychwelyd i'r sgrin i chwarae Gronw, gyda Lois Meleri-Jones yn chwarae ei ferch Antonia ac Owen Arwyn yw ei fab Dafydd Aldo. Ali Yassine sy'n portreadu Cidw.

Yn ôl Mark Lewis Jones sy'n portreadu perchennog garej a thipyn o 'giangstar' hoffus, y cymeriadau yw calon y ddrama, ac maent yn dod a chariad â chasineb i'r stori.

"O dan y stori sy'n rhedeg dros y chwe phennod, mae'r peth pwysicaf; y perthnasau rhwng y cymeriadau a'u cefndir nhw" meddai Mark. "Mae gan bawb backstory."

"Mae'n gwneud y golygfeydd lot fwy diddorol, tydi nhw ddim am y plot yn unig.

"Ar yr arwyneb, gall pethau bach ymddangos yn ddibwys, ond tydi nhw ddim maen nhw mwy am be sy'n mynd ymlaen rhwng y cymeriadau ac sut maen nhw'n plethu gyda'i gilydd.

"Maen nhw'n gymeriadau Cymreig credadwy iawn."

Mae'n argoeli y bydd Dal y Mellt yn dod a rhywbeth ffres ac egnïol i S4C ac yn cadw'r gwylwyr ar flaen eu seddi.

Mae'r gyfres yn dechrau ar strydoedd cefn tywyll y brifddinas cyn symud yn ôl ac ymlaen rhwng Caerdydd, Porthmadog a'r cyffiniau, Soho yn Llundain a Chaergybi.

Gwyliwch Dal y Mellt ar nos Sul 2 Hydref am 9.00, neu gwyliwch y Bocs Set cyfan ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?