S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR ar S4C

7 Hydref 2022

Bydd S4C yn darlledu gemau byw o Gwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR eleni.

Gyda'r Gweilch yn cystadlu yng Nghwpan y Pencampwyr, a Scarlets, Dreigiau a Chaerdydd yn y Gwpan Her, bydd modd dilyn rhanbarthau Cymru ar S4C wrth iddyn nhw herio rhai o dimau gorau Ewrop, ac am y tro gyntaf y tymor hwn, De Affrica.

Bydd pob un o gemau bydd y Gweilch yn chwarae yn eu grŵp yng Nghwpan Pencampwyr Heineken yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C: Gweilch v Caerlŷr ar nos Sul 11 Rhagfyr (Cic gyntaf 5.30yh), Montpellier v Gweilch ar nos Sadwrn 17 Rhagfyr (CG 8.00yh), Gweilch v Montpellier ar nos Sadwrn 14 Ionawr (CG 8.00yh) a Chaerlŷr v Gweilch ar nos Wener 20 Ionawr (CG 8.00yh).

Yn y Cwpan Her EPCR, bydd Caerdydd v Brive yn cael ei ddangos ar nos Sadwrn 10 Rhagfyr (CG 5.30yh), Dreigiau v Pau ar nos Sadwrn 17 Rhagfyr (CG 5.30yh), Scarlets v Cheetahs ar nos Wener 13 Ionawr (CG 8.00yh) a Bayonne v Scarlets ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr (CG 1.00yh).

Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C: "Mae'r Cwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR ymysg y cystadlaethau mwyaf all clybiau obeithio eu hennill ac rydym yn falch o adnewyddu ein partneriaeth ddarlledu lwyddiannus gyda'r EPCR.

"Bydd gwylwyr S4C yn gallu dilyn y pedwar rhanbarth ar draws y ddwy gystadleuaeth ac rydym yn edrych ymlaen at fwynhau gemau o'r safon uchaf."

Gemau Byw ar S4C

Cwpan Pencampwyr Heineken

Gweilch v Caerlŷr - nos Sul 11 Rhagfyr - CG 5.30yh

Montpellier v Gweilch - nos Sadwrn 17 Rhagfyr - CG 8.00yh

Gweilch v Montpellier - nos Sadwrn 14 Ionawr - CG 8.00yh

Caerlŷr v Gweilch - nos Wener 20 Ionawr - CG 8.00yh

Cwpan Her EPCR

Caerdydd v Brive - nos Sadwrn 10 Rhagfyr - CG 5.30yh

Dreigiau v Pau - nos Sadwrn 17 Rhagfyr - CG 5.30yh

Scarlets v Cheetahs - nos Wener 13 Ionawr - CG 8.00yh

Bayonne v Scarlets - dydd Sadwrn 21 Ionawr - CG 1.00yh

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?