Cyfres hanes byw newydd sbon sy'n mynd â grŵp o gyn-wersyllwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau nôl mewn amser i ddegawdau'r 50au-80au i brofi penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.
TX: Nos Sul 16 Hydref 8.00, S4C
2. Sgwrs Dan y Lloer: Dafydd Iwan
Rhifyn arbennig awr o hyd lle bydd Elin Fflur yn siarad â'r chwedlonol Dafydd Iwan - canwr, cyfansoddwr, ymgyrchydd, gwleidydd, pregethwr a dyn busnes.
TX: Dydd Llun, 17 Hydref 8.00, S4C
Rhifyn arbennig sy'n ail-ymweld â fferm Ffridd, Dyffryn Nantlle a'r teulu oedd yn destun y ffilm ddogfen blant, Byd Mari, a greodd dipyn o argraff 20 mlynedd yn ôl.
TX: Dydd Llun, 17 Hydref 9.00, S4C
HEFYD
Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?
Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon