S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Waka Waka: Byddwch yn rhan o’r Wal Goch yn Qatar gyda S4C

21 Hydref 2022

- Pob gêm Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022™ yn fyw ar S4C

- Tîm cyflwyno llawn arwyr pêl-droed Cymru, gan gynnwys Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones

- Arlwy sydd yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, gan gynnwys newyddion o garfan Cymru a chyfweliadau gyda'r chwaraewyr

Bydd Rob Page a charfan Cymru yn teithio i Qatar fis nesaf ar gyfer Cwpan y Byd 2022 FIFA™ a bydd modd i gefnogwyr Cymru ddilyn pob cam o'u taith ar S4C: Cartref pêl-droed Cymru.

Bydd S4C yn dangos pob gêm Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd ac yn canolbwyntio ar un tîm yn unig yn ystod y bencampwriaeth hanesyddol hwn – Cymru.

Bydd arlwy S4C hefyd yn adlewyrchu'r cyffro ar draws y wlad gyda'r rhaglenni yn cynnwys digonedd o amser i adeiladu at bob gêm, gyda chyfweliadau gan y chwaraewyr a'r newyddion diweddaraf o garfan Cymru.

Yn arwain tîm S4C yn Qatar bydd y cyflwynydd, Dylan Ebenezer.

Meddai Dylan: "Mae cefnogwyr Cymru wedi dilyn y tîm arbennig yma ar S4C ers blynyddoedd - ac mae hi'n anhygoel bod y daith wedi mynd a ni'r holl ffordd i Gwpan y Byd FIFA. Ry'n ni gyd yn cefnogi Cymru'n angerddol a 'da ni gyd eisiau gweld Gareth Bale a'r bois yn efelychu John Charles ac arwyr 1958 – a mynd hyd yn oed yn bellach.

"Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i fynd i ddwy Bencampwriaeth Ewrop fel rhan o dîm S4C, ond mae Cwpan y Byd yn mynd i fod yn sbesial iawn i bawb yng Nghymru - i'r chwaraewyr, cefnogwyr, ac i ni sy'n ddigon ffodus i gael gweithio yn Qatar.

"Mi fyddwn ni'n dod ag awyrgylch y stadiwm i ystafelloedd byw, tafarndai a chlybiau pêl-droed ledled Cymru. Beth bynnag sy'n digwydd, mi fyddwn ni'n gweld hanes yn cael ei greu yn fyw ar S4C."

Mi fydd tair gêm Cymru yng Ngrŵp B yn cael eu cynnal yn Stadiwm Ahmad bin Ali yn Al Rayyan, ac yno gyda'r newyddion diweddaraf o'r ystlys bydd y gohebydd, Sioned Dafydd.

Meddai Sioned: "S4C yw dewis cefnogwyr Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA.

"Mae'n fraint ac anrhydedd enfawr i ddilyn Cymru mewn Cwpan y Byd gyda chriw S4C ac mae'n wych bod pob gêm i'w gweld yn yr iaith Gymraeg.

"Roedd gweithio ar y gêm yn erbyn Wcráin ym mis Mehefin yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac un o nosweithiau gorau fy mywyd.

"Dwi'n gobeithio byddwn ni'n gweld mwy o achlysuron anhygoel fel hyn yn Qatar."

Gwennan Harries, cyn-ymosodwr Cymru a chyd-sylwebydd Cwpan y Byd S4C.

Yn y blwch sylwebu gyda Nic Parry bydd cyn-ymosodwr Cymru, Gwennan Harries, a sgoriodd 18 gôl wrth ennill 58 dros ei gwlad.

Meddai Gwennan: "Roeddwn i mor gyffrous pan glywais fy mod i'n gweithio yng Nghwpan y Byd, bron yr un mor gyffrous â phan ges i'r galwad am fy nghap cyntaf i!

"Rwy'n edrych ymlaen at fynd allan yna i weld Cymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth fwyaf y byd pêl-droed, a gobeithio gweld perfformiadau byddwn ni'n cofio am flynyddoedd a degawdau i ddod."

Ac yn dadansoddi'r cyfan bydd Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr canol cae Cymru sydd â saith cap i'w enw.

Bydd mwy o aelodau tîm Cwpan y Byd S4C yn cael eu datgelu ar gyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon dros yr wythnosau nesaf.

Bydd mwy o aelodau tîm Cwpan y Byd S4C yn cael eu datgelu ar gyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon dros yr wythnosau nesaf.

Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr canol cae Cymru a dadansoddwr Cwpan y Byd S4C.

Meddai Owain: "Mae gwylio Cymru yn cymryd eu lle ymysg timau gorau'r byd mewn Cwpan y Byd yn rhywbeth 'da ni gyd wedi breuddwydio amdano.

"I fi, roedd chwarae i Gymru mewn Cwpan y Byd yn freuddwyd hefyd, ond er wnaeth hynny ddim cweit gweithio allan, dyma ydi'r peth agosaf wna'i brofi at hynny.

"Felly alla i ddim disgwyl i fod yno i weld darn arbennig o hanes pêl-droed Cymru yn cael ei greu, ac wrth gwrs, i glywed yr anthem am y tro gyntaf."

Bydd darllediadau o gemau Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022™ yn cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, ar ran S4C.

I ddathlu holl gyffro Cwpan y Byd, bydd S4C yn dangos sawl rhaglen dros y cyfnod yn dathlu hanes a ddiwylliant y bêl gron yng Nghymru.

Byddwn ni'n hiraethu am unig ymddangosiad blaenorol Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y ddogfen, Bois '58, ac yn ail-fyw'r ymgyrch hanesyddol diweddar i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Pob Cam i Qatar.

Bydd y wledd o bêl-droed hefyd yn cynnwys y ffilm gan Jonny Owen, Cewri Cwpan y Byd, sy'n olrhain trawsnewidiad llewyrchus pêl-droed yng Nghymru dros y dau ddegawd diwethaf, yn ogystal â rhaglen arbennig sy'n adrodd yr hanes tu ôl i'r gân gan Dafydd Iwan, Yma o Hyd, sydd bellach wedi ei mabwysiadu fel anthem answyddogol gan y tîm a'r cefnogwyr.

Bydd sianelau cyfryngau cymdeithasol S4C yn cynnig cynnwys a diweddariadau dyddiol o Qatar yn ystod Cwpan y Byd FIFA, yn ogystal â rhaglenni rhagolwg y noson cyn bob gêm Cymru.

Dilynwch @S4Cchwaraeon ar Twitter, Facebook ac Instagram i fwynhau'r cyfan.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?