S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Osian Roberts a Malcolm Allen yn rhan o dîm S4C ar gyfer Cwpan y Byd FIFA

9 Tachwedd 2022

Mae S4C wedi cadarnhau dau aelod newydd i'w tîm cyflwyno Cwpan y Byd FIFA 2022, gydag Osian Roberts a Malcolm Allen yn ymuno.

Bydd Roberts, cyn is-reolwr Cymru ac is-reolwr presennol i Patrick Vieira yn Crystal Palace, ac Allen, cyn-ymosodwr Cymru sydd â 14 cap i'w enw, yn cymryd eu lle yn nhîm dadansoddi S4C yn ystod y bencampwriaeth.

Bydd Osian a Malcolm yn ymuno ag Owain Tudur Jones yn y tîm dadansoddi, gyda Dylan Ebenezer yn cyflwyno, Sioned Dafydd yn ohebydd a Nic Parry a Gwennan Harries yn y blwch sylwebu.

Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd FIFA, gan gychwyn gydag UDA v Cymru ar nos Lun 21 Tachwedd am 6.00yh.

Dywedodd Osian Roberts, aelod allweddol o dîm hyfforddi Cymru yn yr ymgyrch bythgofiadwy yn Euro 2016: "Mae'r tîm yma wedi cyflawni rhywbeth arbennig iawn drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA ac mae Rob Page yn haeddu clod anferthol am hynny.

"Ond mi fydd y chwaraewyr yn benderfynol o ddangos i'r byd beth maen nhw'n gallu gwneud a beth mae cynrychioli eu gwlad yn ei olygu iddyn nhw.

"Rydw i'n edrych ymlaen yn arw i fod yn Qatar fel rhan o dîm Cwpan y Byd S4C."

Dywedodd Malcolm Allen: "Ar ôl dod mor agos i gyrraedd Cwpan y Byd fel chwaraewr, dwi mor falch i fod yno yn 2022, yng nghanol sioe fwyaf y byd.

"Dyma'r llwyfan mae pawb eisiau bod arno a dw i'n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm S4C a rhoi'r iaith Gymraeg ar y map.

"Mae gen i fydd a hyder yn Rob Page a'r tîm a dwi'n gobeithio gweld yr hogiau yn mynd yr holl ffordd i'r ffeinal.

"Fel Cymro balch, dwi mor gyffrous i fod yn rhan fach o achlysur anferthol yn hanes ein gwlad."

Bydd modd clywed mwy gan Malcolm Allen ar Wal Goch: Cwpan y Byd 2022, Heno a chyfryngau cymdeithasol Sgorio yn ystod Cwpan y Byd.

Bydd S4C yn troi'r sianel yn goch yn y cyfnod cyn y bencampwriaeth gyda gwledd o raglenni yn dathlu diwylliant a hanes y bêl gron yng Nghymru.

Ar nos Sul 13 Tachwedd, byddwn ni'n edrych nôl ar gyfnod euraidd o hanes pêl-droed Cymru yn y rhaglen Bois 58, ac yn clywed y stori tu ôl i gân wefreiddiol Dafydd Iwan, Yma o Hyd.

Yn Cymru: Pob Cam i Qatar, ar nos Wener 11 Tachwedd, cawn gyfle i ail-fyw'r ymgyrch ragbrofol lwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd, tra yn Tîm tu ôl i'r Tîm, ar Nos Sul 20 Tachwedd, byddwn ni'n cael mewnwelediad ecsgliwsif i'r tîm yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru sydd yn galluogi Rob Page a charfan Cymru i berfformio ar y cae.

Bydd Yws Gwynedd a Mari Lovgreen yn cyfuno pêl-droed, cerddoriaeth byw a digon o chwerthin yn y Wal Goch: Cwpan y Byd 2022 pob nos Wener yn ystod Cwpan y Byd, ac mi fydd tîm Newyddion S4C yn darlledu'n fyw o Qatar yn ystod y bencampwriaeth gyda chyfres o adroddiadau arbennig.

Yna ar noswyl y gêm fawr rhwng Cymru a'r UDA, byddwn ni'n cynnal dathliad o iaith a diwylliant Cymreig mewn cyngerdd arbennig yn Efrog Newydd, Cyngerdd Cymru i'r Byd, ar nos Sul 20 Tachwedd. Wedi ei chynnal yn Sony Hall, Times Square, bydd y cyngerdd yn cynnwys cyfraniadau gan Ioan Gruffudd, Bryn Terfel a llu o artistiaid dawnus.

I'r rhai sydd eisiau ymfalchïo yn ymddangosiad gyntaf Cymru mewn Cwpan y Byd ers 1958, bydd yr holl rhaglenni Cymru ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd cyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon yn rhannu cynnwys dyddiol ar draws Facebook, Twitter ac Instagram yn ystod Cwpan y Byd, tra bydd Sioned Dafydd yn cyflwyno rhaglenni rhagolwg cyn bob gêm.

Bydd darllediadau o gemau Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, ar ran S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?