S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dr. Ifan Morgan Jones yn ymuno a thîm Newyddion S4C

6 Rhagfyr 2022

Mae Dr. Ifan Morgan Jones wedi ei benodi fel uwch olygydd gwasanaeth digidol Newyddion S4C.

Mae Ifan yn ymuno ag S4C o Brifysgol Bangor, lle bu'n arweinydd y cwrs newyddiaduraeth ac yn gyfarwyddwr marchnata a recriwtio Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes.

Ef yw sylfaenydd y wefan newyddion Nation.Cymru, a bu'n olygydd ar wefan Golwg360 ac yn ddirprwy olygydd cylchgrawn Golwg.

Mae'n awdur pum nofel, ac fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.

Dywedodd Ifan Morgan Jones: "Rwy'n hynod gyffrous ac yn falch o dderbyn swydd olygyddol yn S4C sydd wedi chwarae rhan mor allweddol ers 40 mlynedd wrth galon bywyd cenedlaethol Cymru ac wrth gefnogi ein hiaith.

"Mae gwefan ac ap Newyddion S4C yn wasanaethau cymharol newydd ond wedi gwneud gwaith rhagorol ar flaen y gad wrth i S4C ddarparu ystod o wasanaethau digidol newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg."

Dywedodd Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: "Mae Ifan yn newyddiadurwyr arloesol ac mae ei benodiad yn hwb mawr i wasanaeth Newyddion digidol S4C.

"Rydan ni'n edych ymlaen i'w groesawu yn y flwyddyn newydd a gweld sut bydd y gwasanaeth yn datblygu dan ei arweiniad."

Sefydlwyd Newyddion S4C ym mis Ebrill 2021 i ateb y galw am wasanaeth newyddion digidol i weithio ar y cyd gyda rhaglen Newyddion S4C, a gynhyrchir gan BBC Cymru.

Gallwch lawrlwytho ap NS4C drwy'r App Store neu Google Play Store ac ymweld â'r wefan ar s4c.cymru/Newyddion. Dilynwch @NewyddionS4C ar Facebook, Trydar a Instagram ar gyfer y newyddion diweddaraf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?