S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffigyrau newydd yn dangos bod S4C yn llwyddo denu gwylwyr ifanc

12 Ionawr 2023

Mae S4C wedi llwyddo i gynyddu'r gyfran o wylwyr iau - camp enfawr mewn byd darlledu cystadleuol ac sy'n newid yn gyflym.

Er bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y DU wedi symud yn gyflym i gwrdd â'r newid seismig mewn arferion gwylio'r gynulleidfaoedd iau ar draws niferoedd o lwyfannau ffrydio - mae cadw a thyfu'r ddemograffeg hon wedi bod yn heriol.

Mae'r data a gasglwyd gan y sianel dros y naw mis diwethaf yn datgelu bod y cyfran gwylio ymhlith cynulleidfaoedd iau (16-44) yr uchaf nag y bu ers 2008.

Ond mae mwy o newyddion da gan S4C.

Mae'r sianel wedi gweld cynnydd o 35% yn ei ffigyrau gwylio llinol ac dal i fyny yn ystod yr oriau brig ar gyfer y grŵp oedran 16-44 ar gyfer 2022/23 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn datgelu cynnydd o 20% o flwyddyn i flwyddyn o 2021/22 yn nifer y gwylwyr sy'n dewis gwylio eu hoff raglenni oriau brig ar lwyfannau ar alw fel S4C Clic ac iPlayer.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C Siân Doyle, mae sawl rheswm dros y llwyddiannau hyn.

"Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd i gyrraedd y pwynt yma ac yn sicr, dim ond dechrau taith hir yw hyn. Mae darparu rhaglenni o ansawdd uchel yn amlwg yn ganolog i bopeth rydym yn gwneud," meddai Siân.

"Ond yn sail i hyn, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach, mae deall anghenion ein cynulleidfaoedd a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu gwylio eu hoff raglenni ar amser, mewn lle ac ar lwyfan sydd fwyaf addas iddyn nhw. Yn y byd modern, prysur yr ydym yn byw ynddo, mae'r hyblygrwydd yma'n bwysig.

"Mae bod â'r ymwybyddiaeth o'r amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo a bod yn barod i symud gyda'n cynulleidfa, yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar y gwaith craidd o wneud a chomisiynu rhaglenni."

"Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael sector creadigol mor gryf. Yn S4C, rydym yn hynod o falch o'r berthynas sydd gennym ni gyda'n partneriaid a'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n cynhyrchu gymaint o'r cynnwys rhagorol y gallwn ei rannu gyda'n gwylwyr. Ac mewn gwirionedd, y cynnwys newydd yma sy'n gyrru ffigyrau gwylio cadarnhaol rydyn ni'n eu gweld nawr."

"Mae ein ffigyrau gwylio dros gyfnod y Nadolig yn cefnogi hyn gyda rhaglenni sydd newydd eu comisiynu fel Gogglebocs Cymru a chyfresi newydd o Gwesty Aduniad a Yr Amgueddfa yn dychwelyd yn denu cynulleidfaoedd uwch nag erioed.

"Wrth edrych yn ôl dros 2022, byddai'n anodd peidio â sôn am ymddangosiad cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd pêl-droed ers 64 mlynedd a'n rhan ni fel darlledwr yn dilyn Cymru ar eu taith epig i gyrraedd yno.

"Denodd ein darllediadau o gemau Cymru yn Qatar y niferoedd uchaf erioed i'r sianel a chreodd feelgood factor da a momentwm yr oeddem yn benderfynol o gyffwrdd ynddo. Fe wnaeth tîm S4C gweithio'n galed tu hwnt i wneud i hyn digwydd - ac mae llu o bethau cadarnhaol wedi deillio o'i hymdrechion nhw.

"Ac er ei bod pob amser yn braf gallu gwneud sylwadau ar newyddion cadarnhaol, gwyddom na allwn orffwys. Heb os, bydd y Flwyddyn Newydd yn dod â heriau newydd ond cyn belled â'n bod yn parhau i symud ymlaen gyda'n cynulleidfaoedd, gobeithio dylem ni fod ar y trywydd iawn."

DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?