S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

"Roeddwn i ar fy isaf blwyddyn ddiwethaf, ond nawr fi ar fy uchaf"

13 Ionawr 2023

Mae mam o Aberystwyth a serennodd ar gyfer deledu FFIT Cymru yn annog pobl i wneud cais i fod yn rhan o'r gyfres newydd yn 2023.

Nôl yn 2020, cafodd Wendy Thomas brofiad dychrynllyd o gael ei brysio i'r ysbyty gyda Covid-19, ac wedi dioddef o effeithiau Covid Hir wedi hynny.

Roedd ei iechyd meddwl yn dirywio, ond ar ddechrau 2022, fe benderfynodd rhoi ei henw ymlaen i fod yn rhan o gyfres trawsnewid iechyd S4C, FFIT Cymru.

Dyna oedd yr hwb roedd Wendy, sy'n 58 oed, ei hangen. Gyda chefnogaeth tîm arbenigwyr FFIT Cymru, y seicolegydd Dr Ioan Rees, y hyfforddwr personol Rae Carpenter a'r dietegydd Beca Lyne-Pirkis, fe ymrwymodd Wendy i'r cynllun yn llwyr.

"Ar ôl cael covid, doeddwn i erioed wedi teimlo mor sâl ac mi wnaeth e hela ofn arnaf i," meddai Wendy. "Felly cyn cychwyn gyda FFIT Cymru, oeddwn i'n dioddef gyda fy iechyd meddwl.

"Dim colli pwysau oedd yn bwysig ar y cychwyn, ond trial sortio fy mhen mas. Ond fe wnaeth popeth slotio mewn i le i mi yn feddyliol ar ôl sesiwn gyda Dr Ioan.

"Wedyn cefais i fwydlen Beca a'r cynllun i gael yn ffit gyda'r ymarfer corff gan Rae, a daeth popeth at ei gilydd - mi oedd angen y tri peth yna gyda'i gilydd. Fyddwn i byth wedi gwneud e heb ddod ar FFIT Cymru a chael cefnogaeth yr arbenigwyr."

Cyn y daith FFIT Cymru, roedd Wendy yn pwyso 13 stôn a dau bwys ac roedd ei ffitrwydd yn debycach i rywun oedd dros oedran o 79. Ond ar ôl dilyn y cynlluniau ac ail-ddarganfod ei mwynhad o ymarfer corff, fe lwyddodd i golli dwy stôn ac un pwys yn ystod saith wythnos y gyfres.

Ac wrth iddi barhau â'r ymarfer corff ar ôl i'r gyfres orffen, drwy ddringo mynyddoedd, mynd i ddosbarth sbinio a mwynhau coasteering, mae Wendy bellach yn pwyso naw stôn a naw phwys.

Ond yn bwysicach na hynny yw'r gwahaniaeth mae'r profiad wedi cael ar ei iechyd meddwl, ei hapusrwydd a'i hunan hyder.

"Mae hyn wedi bod yn brofiad bythgofiadwy," meddai Wendy. "Pan ddechreuais i fe, oni'n meddwl 'alla i byth a neud hyn'...Dyw e ddim wedi bod yn hawdd.

"Ambell i ddiwrnod dwi wedi gorfod gwthio drwy'r cymylau i weld yr haul. Ond mae e werth e.

"Blwyddyn ddiwethaf, mi oeddwn i ar fy isaf, ond nawr fi ar fy uchaf. O'r blaen oeddwn i just yn existio. Ond mae bywyd yn werth byw nawr.

"A nawr mae gen i memento i atgoffa fy hun, tri gair bach fel tatŵ - 'let it go'. Mae FFIT Cymru wedi safio fi, dyna holl allwn i ddweud. Y gôl nawr yw byw fy mywyd."

Dywedodd Dr Ioan Rees: "Pan wnaethon ni gyfarfod cyntaf a dechrau gweithio gyda'n gilydd, roedd 'na sawl peth yn feddyliol oedd yn cyfyngu ar fywyd ac iechyd Wendy.

"Ond fe lwyddodd hi i ddod dros rheina yn ystod y gyfres a chael personal breakthrough."

Ychwanegodd Rae Carpenter: "I can't: dyw hwnna ddim yng ngeirfa Wendy rhagor, o gwbl.

"Mae ei hymrwymiad dros y chwe mis diwethaf wedi bod yn anferthol, ac yn hollol ysbrydoledig. Mae hi'n 58, ond fi'n credu bod hi'n mynd i ddangos i bawb mai 60 yw'r 40 newydd."

Ydych chi eisiau bod yn un o arweinwyr y gyfres newydd o FFIT Cymru? Mae'r ffenest ymgeisio ar agor tan Ionawr 31, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru i wneud eich cais ar-lein.

Mae FFIT Cymru yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir, ac yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, bobl anabl neu Fyddar, a phobl sy'n hunaniaethu'n LGBTQ+.

Os hoffwch sgwrs anffurfiol am fwy o wybodaeth, gallwch chi gysylltu â'r tîm cynhyrchu ar ffitcymru@cwmnida.tv.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?