S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

‘Patagonia’ gan Alistair James yw enillydd Cân i Gymru 2023

3 Mawrth 2023

Y gân Patagonia gan Alistair James yw enillydd Cân i Gymru 2023.

Cafodd Patagonia gan Alistair James o Lanfairfechan (wedi'i berfformio gan Dylan Morris) ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2023 ar S4C heno (3 Mawrth) o lwyfan Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Cafodd Alistair James ei fagu yn Llanfairfechan, ac mae o bellach yn byw yng Nghonwy. Mae'n cyflwyno rhaglen frecwast ar Capital FM Cymru ac wedi bod yn perfformio'n gyson ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn ôl yn 2005. Dyma'r trydydd tro i Alistair ymddangos ar Can i Gymru (2008 a 2020) ond y flwyddyn gyntaf iddo gymryd rhan fel cyfansoddwr yn unig. Mi gafodd ei ysbrydoli ar ôl darllen am hanes Patagonia a rhestr o enwau pobl o'r gogledd yn mynd â'r Gymraeg i ben draw'r byd.

Meddai Alistair James:

"Mae hwn i Russ Hayes, fy nghynhyrchydd i sydd wedi bod trwy gyfnod mor anodd...Mae o jyst yn golygu'r byd, diolch - diolch i bawb am bleidleisio, diolch am ddod. Diolch!"

Cafodd cystadleuaeth 2023 ei lansio nôl ym mis Hydref 2022 gyda'r dyddiad cau ar ddechrau Ionawr.

Dewisodd panel o bedwar beirniad yr wyth cân a gyrhaeddodd rownd derfynol Cân i Gymru 2023. Y panel eleni oedd y gantores a'r cynhyrchydd Eädyth, y cerddor ac aelod o'r grŵp Pedair, Gwyneth Glyn, enillydd Cân i Gymru pedair gwaith a phrif leisydd 'Y Moniars', Arfon Wyn, a'r cyflwynydd radio a phrif leisydd Sŵnami, Ifan Davies.

Ond heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.

Mae Alistair James yn ennill tlws Cân i Gymru 2023 a'r wobr o £5,000.

Cân i Mam gan Huw Owen oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Cysgu gan Alun Evans (Alun Tan Lan) oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.

Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2023, ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer. Cynhyrchiad Avanti Media ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?