S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi dwy ddogfen chwaraeon, yn chwifio’r fflag i Gymru

27 Mawrth 2023

Gan barhau â strategaeth S4C i gomisiynu cynnwys o safon uchel ar gyfer cynulleidfa fyd-eang, mae'r sianel wedi rhoi'r golau gwyrdd i ddwy ddogfen chwaraeon newydd.

Mi fydd y cwmni cynhyrchu annibynnol o Dde Cymru, Barn Media, yn cynhyrchu rhaglen ddogfen 1x60 o dan y teitl gweithredol, Gareth Bale – Byw y Freuddwyd.

Wedi'i chyfarwyddo gan Rhys Edwards, mae'r ffilm dreiddgar a theimladwy yma yn dathlu stori ryfeddol un o chwaraewyr mwyaf talentog pêl-droed, Gareth Bale. O'i ddyddiau cynnar fel chwaraewr ifanc ac addawol, i'w enwogrwydd syfrdanol gyda chlwb Tottenham a'r trosglwyddiad i Real Madrid a dorrodd record y byd. Mae'r rhaglen ddogfen yma yn edrych ar fywyd a gyrfa'r arwr Cymraeg a'i le ymysg mawrion y byd pêl-droed, gan ddathlu ei ddylanwad ar y gamp a'i enw fel un o'r chwaraewyr gorau erioed.

Cawn olwg ar yr hyn sy'n rhoi gwefr i Bale ar ac oddi ar y cae a chlywed gan y rhai sy'n ei adnabod orau. Gyda chlipiau sydd prin wedi eu gweld o'r blaen a chyfweliadau craff gan gyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr Cymru, dyma'r deyrnged mwyaf i un o'r chwaraewyr gorau erioed. Mi fydd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gan ei gyd-chwaraewyr a rheolwyr gan gynnwys Harry Redknapp, Theo Walcott and Rob Page.

Mae Ffilmiau Twm Twm, cwmni cynhyrchu yn Y Felinheli, Gwynedd, wedi eu comisiynu i gynhyrchu Qatar - Cymru Ar Ben y Byd. Dyma raglen ddogfen tu ôl i'r llen sy'n edrych ar brofiadau tîm pêl-droed Cymru a'r Wal Goch ffyddlon o gefnogwyr ar adeg bwysig yn hanes chwaraeon Cymru. Gan gyfuno ffilm o wersyll hyfforddi'r tîm yn Qatar a fideos wedi'u ffilmio gan rai o gefnogwyr mwyaf ymroddedig Cymru gyda chyfweliadau newydd sbon, dyma olwg yn ôl ar un o fisoedd mwyaf cofiadwy Cymru. Er ei fod yn uchafbwynt hanesyddol, roedd hefyd yn gyfnod o siom i'r tîm a'r cefnogwyr, ond cafodd yr iaith Gymraeg a'r diwylliant eu harddangos ar lwyfan ryngwladol ar adeg o gyffro mawr.

Mae Gareth Bale - Byw y Freuddwyd yn 1x60 gan Barn Media, wedi'i comisiynu gan Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C. Rhys Edwards yw'r Cyfarwyddwr, Dafydd O'Connor yw'r Cynhyrchydd a Ceri Barnett yw'r Uwch Gynhyrchydd. Mae Qatar – Cymru Ar Ben y Byd yn 1x60 gan Ffilmiau Twm Twm ac fydd i'w gweld ar S4C ar nos Sul 2 Ebrill am 9.00.

Meddai Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C:

"Mae chwaraeon byw wedi bod yn gonglfaen i ddarlledu S4C ers ei dyddiau cynnar, ac rydym yn falch o gael adrodd straeon cyffrous ac emosiynol fel rhan o'n rhaglenni dogfen chwaraeon. Mae pêl-droed wedi rhoi rhai o uchafbwyntiau ac eiliadau mwyaf cofiadwy i'r genedl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal ag ambell i siom ar hyd y ffordd. Ac mi fydd y rhaglenni dogfen hyn yn adrodd straeon rhai o'n cefnogwyr mwyaf ymroddedig yn ogystal â rhai o'n sêr mwyaf."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?