S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sequins a Storm ar y gorwel

Tallia Storm

24 Mai 2023

Mae ail ran o'r gyfres boblogaidd Mwy na Daffs a Taffs ar gael i'w ffrydio o 24 Mai.

Roedd rhan gyntaf o'r gyfres yn gweld Gemma Collins, Ryan-Mark Parsons, a Luca Bish yn cael eu trochi yn niwylliant Cymru.

Mae 'na wledd o sequins a Storm go fawr yn ein disgwyl hefyd yn yr ail ran.

Mae'r gyfres gan griw Hansh S4C yn ceisio chwalu'r ystrydebau am Gymru, gyda'r cyflwynydd Miriam Isaac yn dod â thri o selebs byd realiti y DU i Gymru am ddeuddydd.

Blu Hydrangea

Blu Hydrangea

Bydd brenhines y drag Blu Hydrangea; y gantores, model a brenhines Insta Tallia Storm; a'r cyflwynydd teledu a radio, Vick Hope yn cael eu trwytho yn niwylliant Cymru.

"Pan dw i'n meddwl am Gymru, dw i'n meddwl am eiriau doniol fel popty ping, ac ynys Y Barri, wrth gwrs, o Gavin & Stacey," meddai Blu Hydrangea sydd o Ogledd Iwerddon, ac sy'n awchu i weld sut brofiad ydy bod yn cwiar yng Nghymru.

"Wnes i fynd i ysgol lle doedd e ddim yn ocê i fod yn hoyw. Roedd yn galed iawn i fi" ychwanega.

Mae gan Blu a brenhines drag Ceredigion, Chris 'Serenity' Jones, lawer mwy na sequins yn gyffredin.

"Fi ydy'r unig drag queen yn y pentre'! Does dim llawer o bobl cwiar yma felly roedd e'n anodd yn tyfu lan," meddai Chris, sy'n byw ar fferm ym mhentref bach Dihewyd ac yn cynnig gwersi dawnsio i bobl ifanc yr ardal.

Mae Tallia Storm ar ei ffordd i Gaerdydd a dydy hi ddim yn dal nôl yn ei hagwedd ystrydebol o Gymru.

"Os oedd Cymru'n ddiod, mi fysa hi fel Earl Grey – jest yn eistedd yna'n ddiflas a gwneud dim byd. Mae gan Gymru botensial ond mae angen iddi fod yn fwy o spicy Margharita," meddai'r gantores o'r Alban.

A beth, dwedwch, mae hi'n cysylltu gyda Chymru? "Defaid, cennin, lot o wair, emynau a Sam Tân – o, a 'what's occurrin'?."

Mi fydd gan y rapwyr o Gaerdydd Dom a Lloyd dipyn o waith, felly, i drio darbwyllo Tallia bod Cymru'n fwy o Spicy Margharita na Earl Grey diflas.

Efallai y bydd mwy o obaith gyda chyflwynydd BBC Radio 1 Vick Hope.

Vick Hope

Mae Vick, sydd hefyd yn newyddiadurwraig ac awdur, yn cyfaddef nad ydy hi'n gwybod llawer am yr iaith Gymraeg ar wahân i'r ffaith ei bod yn "iaith brydferth".

Brenhines soul Cymru, Eadyth, sy'n cael y dasg o ddangos y gorau o Gymru i Vick a gan ei bod hi'n argyhoeddedig bod "pawb yng Nghymru yn gallu canu" does dim amdani ond ymuno â chôr aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth i ganu Calon Lân.

Mae'n beth da bod Vick yn "caru natur" achos mae'r gwynt a'r glaw yn eu disgwyl yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog.

A hithau wedi cystadlu ar Strictly Come Dancing, does dim i'w gymharu â dawnsio i Hei Mistar Urdd ar ben mynydd, a chael cyfle i ddawnsio gwerin.

Mae Vick hefyd yn clywed am yr holl waith da mae'r Urdd yn ei wneud, tra bod hi ac Eadyth yn uniaethu dros eu profiadau o fod o dras cymysg.

"Mae 'na deimlad o gymuned yma, lle cynnes, saff a heddychlon," meddai Vick ar ddiwedd ei deuddydd yn y gorllewin gwyllt.

Bydd tair pennod nesaf Mwy na Daffs a Taffs ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a holl lwyfannau Hansh o ddydd Mercher 24 Mai.

Vick Hope, Miriam Isaac & Eadyth
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?