S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn rhoi llwyfan i’r Urdd

06 Mehefin 2023

Fe wnaeth wythnos lwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 weld cynnydd yn y ffigyrau gwylio gyda'r gynulleidfa oedd yn gwylio rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol S4C yn dyblu o gymharu â llynedd.

Eleni, roedd S4C yn cynnig mwy o ffyrdd nag erioed o wylio gyda'r holl gystadlu o'r Pafiliwn Coch, y Pafiliwn Gwyn a'r Pafiliwn Gwyrdd yn cael eu ffrydio'n fyw ar S4C Clic o 8:00 y bore hyd at ddiwedd y cystadlu.

Dros yr wythnos roedd 77,000 o sesiynau gwylio'r ffrydio byw o'r pafiliynau hyn.

Cafodd rhaglenni'r Urdd, heb gynnwys y ffrydio byw, 80,000 o sesiynau gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Gwelwyd cynnydd hefyd o 17% yn y niferoedd gwylio yn ystod y prynhawn o gymharu â 2022.

Roedd 217,000 o wylwyr yng Nghymru wedi gwylio ein rhaglenni o Eisteddfod yr Urdd ar y teledu yn ystod yr wythnos, sy'n gynnydd o 6% o gymharu â llynedd.

Ac ar draws cyfryngau cymdeithasol S4C, mi gafodd cynnwys Eisteddfod yr Urdd ei weld dros 1 miliwn o weithiau.

Dywedodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:

"Roedd yr Urdd yn cychwyn ein haf o ddigwyddiadau byw ac roedd hi'n wych fod S4C yn darlledu yn aml-blatfform a dod â phob eiliad o'r Urdd yn fyw i'n cynulleidfa ni.

"Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid ni yn yr Urdd a chwmni Afanti am gyd-weithio mor arbennig. Mae hi'n ffantastig i weld y niferoedd wnaeth wylio yn tyfu."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?