22 Mehefin 2023
Ras rhwng Tadej Pogačar o Slofenia a Jonas Vingegaard o Ddenmarc fydd hi yn y Tour de France eleni yn ôl y tîm fydd yn dilyn y ras i S4C.
Mae gan Gymru gynrychiolaeth dda yno eleni eto gydag Owain Doull yn rasio fel rhan o dîm EF Education-EasyPost.
Bydd y Tour yn dechrau eleni yn Bilbao ar ddydd Sadwrn y 1af o Orffennaf, gyda'r beicwyr yn cystadlu am dros dair wythnos cyn croesi'r linell derfyn ym Mharis.
Bydd holl gymalau'r ras yn cael eu dangos yn fyw ar S4C gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos.
Mae tîm sylwebu S4C yn cynnwys y beiciwr proffesiynol Eluned King, Awen Roberts wnaeth gystadlu ym mhencampwriaeth beicio iau y byd llynedd a'r brodyr Peredur a Rheinallt ap Gwynedd.
Yn ôl Peredur ap Gwynedd brwydr rhwng Pogačar a Vingegaard fydd y ras eleni,
"Mae'r ddau yn ffrindiau mawr – bromance rhwng y ddau, rhain yn bendant yw'r ffefrynnau.
Ond mae damweiniau yn gallu digwydd. Os digwydd i un neu ddau gael damwain pwy a wŷr pwy fydd yn ennill.
Mae'r reidwyr o danyn' nhw i gyd gyda'r un cryfder a sgiliau. Ond ar bapur, un o'r ddau hyn ddylai ennill."
Bydd S4C yn dod a'r ras yn fyw gyda thîm sylwebu brwdfrydig a gwybodus.
Mae Eluned King yn rasio yn broffesiynol ac yn aelod o academi Prydain, tra bod Awen Roberts yn ymuno gyda'r tîm sylwebu am y tro cyntaf erioed a hithau yn 18 oed.
Dywedodd Eluned King:
"Dyma un o'r campau anoddaf yn y byd. Mae gwylio seiclo yn arbennig iawn gan ein bod ni'n gweld ochr ddynol yr athletwyr – does dim cymaint o barrier – mae'n nhw'n dod drosto yn lot mwy real.
'Wy'n edrych 'mlaen at weld Julian Alaphilippe yn cystadlu ers ei anafiadau – dyn lleol, mae'n emosiynol ryfedda ac mae'n dda cael cymeriadau fel hyn yn y gamp."
Meddai Awen Roberts sydd yn cystadlu'n gyson yn rhyngwladol ar y trac ac ar y ffordd:
"Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn. Achos mod i'n rasio yn broffesiynol, mae 'da fi syniad da sut maen nhw'n teimlo.
Galla' i siarad am y math o bethe sy'n mynd trwy eu pennau a'r tactegau bydd y rheolwyr timau yn eu defnyddio – mae'n gamp fwy tactegol na be' ma' pobol yn feddwl."
Mae'r brodyr ap Gwynedd yn eu hol yn sylwebu gyda Peredur a Rheinallt ar ben eu digon fel esbonia Rheinallt:
"Dwi'n teimlo mor ffodus gallu sylwebu ar un o ddigwyddiadau chwaraeon mwya'r byd yn Gymraeg ar S4C!
Gyda sêr o Gymru yn llewyrchu ym mheloton y dynion a'r menywod, a'r diddordeb yn y gamp yn ffynnu o'r herwydd, mae'n gwneud synnwyr cyffredin i fi bod y genedl yn cael y cyfle i fwynhau ras fwya'r byd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hefyd yn gyfle euraidd i ddangos i'r byd seiclo bod yr iaith yn fyw ac yn iach."
Bydd rhyw 180 yn cystadlu am y crys melyn eleni, a breuddwyd Awen yw cael cystadlu yn y Tour de France femmes ar gyfer y merched.
Mae Awen wrth ei bodd i gael sylwebu ar S4C, meddai:
"S'dim byd yn bendant yn y ras. Hoffwn i weld Mark Cavendish yn ennill cymal arall er mwyn iddo guro record Eddy Merckx am y nifer fwyaf o gymalau yn y Tour de France – mae'r ddau wedi ennill 34 cymal yr un ar hyn o bryd.
"Ond mae cymaint o gyffro ac mae hi mor bwysig gallu gwneud y sylwebaeth hyn yn Gymraeg – mae hyn yn sbesial iawn."
Hefyd yn ymuno fel rhan o'r tîm sylwebu bydd Wyn Gruffydd, Gareth Rhys Owen, Dewi Owen, Robyn Davies, John Hardy a Gruff Lewis.
Peredur ap Gwynedd - un o dim sylwebu S4C yn y Tour de France eleni - ar gefn ei feic