S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynnydd yng ngwylwyr S4C gyda thwf yn y gynulleidfa ifanc

12 Gorffennaf 2023

Mae nifer gwylwyr S4C yng Nghymru bob wythnos wedi codi 8% yn uwch na'r llynedd, y ffigurau uchaf i'r darlledwr ers pum mlynedd.

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C ar gyfer 2022-23, mae'r gwasanaeth yn nodi twf hefyd yn nifer y gwylwyr rhwng 16-44 oed i'r lefel uchaf mewn deng mlynedd.

Yn dilyn llunio strategaeth fasnachol newydd S4C gwerthwyd cyfres ddrama Dal y Mellt i Netflix, ac fe gafodd cyd-gynhyrchiad drama cyntaf S4C gyda Channel 4, Y Golau ei werthu yn rhyngwladol.

Gwelwyd hefyd dwf o 10% yn y gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer, tra fod nifer yr oriau wyliwyd ar YouTube wedi bron â dyblu o fewn blwyddyn, yn dilyn buddsoddiad i drawsnewid llwyfannau gwylio.

Er fod patrwm o fewn y sector darlledu o wylio teledu llinol traddodiadol yn lleihau a'r gynulleidfa yn heneiddio, mae S4C yn mynd yn groes i'r patrwm yma.

Mae llwyddiant S4C i atynnu gwylwyr ifanc at raglenni fel Gogglebocs Cymru, Pen Petrol a'r darllediadau o bêl-droed Cymru wedi achosi i oedran cyfartaledd gwylwyr fynd yn ieuengach dros y bum mlynedd diwethaf. Mae hefyd wedi arwain at gynnydd yn y gwylio llinol ar y teledu hefyd.

Er y gwelwyd twf yn sgil y trawsnewid yn ystod blwyddyn gyntaf strategaeth newydd S4C, rhaid cofio fod y tirlun ar gyfer y byd darlledu yn un heriol ac yn newid yn gyflym.

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C:

"Yn ystod y flwyddyn rydym wedi gweld cynnydd sylweddol wrth i S4C drawsnewid o fod yn sianel deledu llinol yn unig i fod yn gyhoeddwr cynnwys creadigol, aml-blatfform.

"Mae argaeledd ein cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau digidol wedi golygu bod mwy o bobl yn ei weld, yn enwedig gwylwyr iau.

"Mae argaeledd ac amlygrwydd yn mynd law yn llaw, ac mae hynny yn bwysicach nag erioed o'r blaen er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau'r cyfoeth o gynnwys gafaelgar sydd i'w gael ar eu cyfer yn yr iaith Gymraeg.

"Rydym yn croesawu penderfyniad Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cyllid ychwanegol i S4C o Ebrill 2022 ymlaen, a'r cynlluniau arfaethedig i ddeddfu i sicrhau amlygrwydd i ddarparwyr cyfryngau cyhoeddus, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y ddeddfwriaeth yn dod i rym."

Ychwanegodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:

"Rwy'n falch fod ein cynnwys wedi arwain at dwf ar ein holl blatfformau, ein perfformiad cryf ymysg gwylwyr iau a'r llwyddiant wrth werthu ein rhaglenni yn rhyngwladol.

"Mae'r cynnydd yma yn brawf o frwdfrydedd ac ymdrech staff S4C a'n partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru.

"Gwych hefyd yw gweld parhad y cynnydd welwyd yn 2022-23 yn ein ffigurau ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon.

"Mae S4C yn falch o hybu'r iaith Gymraeg, sbarduno siaradwyr newydd a chodi hyder siaradwyr i ddefnyddio'r iaith.

"Ein bwriad ni yw cyfleu Cymru yn ei chyfanrwydd, gan adlewyrchu'r amrywiaeth eang o bobl a straeon sydd yw canfod ar hyd a lled y wlad."

Mae'r Adroddiad Blynyddol i'w gweld yma.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?