S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

25 Gorffennaf

Gall gwylwyr ddewis isdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C o fis Medi ymlaen.

Bydd modd dewis opsiwn isdeitlau Cymraeg wrth wylio ar deledu llinol a hefyd ar S4C Clic byw a dal i fyny.

Fe fydd clipiau o straeon newyddion wedi eu isdeitlo hefyd yn cael eu cyhoeddi ar app a gwefan Newyddion S4C.

Mae'r newidiadau'n cael eu cyflwyno er mwyn helpu siaradwyr Cymraeg newydd i ddilyn straeon newyddion.

Daw'r newidiadau yn sgil ymgynghoriad gyda dysgwyr i ddeall ac ymateb i'w anghenion a'u harferion gwylio.

Ar hyn o bryd, un rhaglen newyddion wythnosol sy'n cael ei darlledu ar S4C wedi'i hanelu at ddysgwyr – Yr Wythnos.

Wrth i'r gwasanaeth isdeitlau Cymraeg gael ei gyflwyno, mae'r rhaglen wedi dod i ben.

Mae S4C yn falch o sbarduno siaradwyr newydd, codi hyder siaradwyr i ddefnyddio'r iaith a chefnogi targed Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r dewis o isdeitlau Cymraeg wedi'u cyflwyno'n ddiweddar i raglen gylchgrawn Heno hefyd. Erbyn i'r datblygiad hwn gyrraedd y rhaglenni Newyddion, bydd yr opsiwn o gael isdeitlau Cymraeg wedi codi dros y flwyddyn ddiweddaf o 52% i 86%.

Yn ôl Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion S4C:

"Mae gwylio a darllen y newyddion yn rheolaidd yn ffordd wych i ddysgu a gwella sgiliau Cymraeg.

"Bydd y newidiadau yma yn rhoi mynediad haws i bawb ddefnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd drwy wylio rhaglen Newyddion S4C gydag is-deitlau Cymraeg, neu drwy fynd i'n gwefan neu app Newyddion a chlicio ar y tab Dysgu Cymraeg."

Mae Newyddion yn gynhyrchiad gan BBC Cymru i S4C.

Daw'r datblygiad wrth i S4C gynnal trafodaeth am y ddarpariaeth i ddysgwyr ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Yn y sesiwn bydd y ffermwr a'r bardd Sam Robinson yn sgwrsio am ei siwrne i ddysgu'r iaith gyda Sara Peacock, Arweinydd Strategaeth y Gymraeg S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?