Y Wasg

Y Wasg

2 Awst, 2023

Fe fydd S4C yn darlledu holl gyffro Eisteddfod Genedlaethol 2023 Llŷn ac Eifionydd.

Yn rhan o dîm cyflwyno S4C eleni bydd Tudur Owen a Heledd Cynwal yn ein tywys drwy ddigwyddiadau'r dydd.

O ddydd Llun ymlaen, Nia Roberts fydd yn ein harwain tuag yn y prif seremonïau a'r cystadlu.

Sage Todz ac Eleri Siôn fydd yn crwydro o amgylch y maes yn dod â holl flas yr ŵyl i ni.

Fin nos bydd Elin Fflur a Trystan Ellis Morris yn ymuno â Tudur Owen gan ddod ag uchafbwyntiau'r dydd i'r gwylwyr ac fe glywn ni ambell berfformiad gyda'r hwyr ar hyd y maes.

Does dim angen colli eiliad o'r cystadlu o'r Pafiliwn Mawr gyda ffrwd arbennig Sedd o'r Pafiliwn Mawr ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Fe fydd hefyd modd gweld y perfformiadau gorau o Maes B, Llwyfan y Maes, a'r Ty Gwerin.

Bydd S4C yn darlledu'r Oedfa fore Sul, y Gymanfa nos Sul a bydd uchafbwyntiau'r Babell Lên yn cael eu darlledu nos Lun i nos Sadwrn.

Dau fydd yn crwydro'r maes yn codi gwen fydd Maggi Noggi a Kiri Pritchard McLean, a bydd modd gweld eu hantur Eisteddfodol nhw mewn cynnwys i'r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â rhaglen arbennig o'u huchafbwyntiau nhw o'r Steddfod.