S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Theatr Genedlaethol Cymru i ffrydio cynyrchiadau a datblygu Y Dyn Nath Ddwyn y ’Dolig 2

08 Awst 2023

Fe fydd tri o gynyrchiadau eraill Theatr Genedlaethol Cymru yn cael eu ffrydio gan S4C, gyda'r dramâu yma i'w gweld ar S4C Clic yn 2024.

Mae'r bartneriaeth rhwng S4C a'r Theatr Genedlaethol yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth Awst 8fed.

Bydd Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig 2 yn ddilyniant i'r glasur o ffilm gafodd ei ddarlledu am y tro cyntaf ar S4C yn 1985 gan gymryd ysbrydoliaeth o'r gwreiddiol i greu cynhyrchiad cerddorol newydd i ddiddanu'r teulu i gyd.

Crëwyd y ffilm wreiddiol gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn ac fe gafodd ei chynhyrchu gan Endaf Emlyn.

Bydd ffrydio cynyrchiadau'r Theatr Genedlaethol yn hwyluso mynediad y rhai sy'n methu mynychu theatrau ac yn sicrhau mynediad i bawb i'r celfyddydau, gyda'r ffrydio yn gyd-gynhyrchiad rhwng y sefydliadau.

Daw hyn wrth i S4C ddarlledu cyfres Anfamol ym mis Medi, sydd wedi ei seilio ar gynhyrchiad gwreiddiol Theatr Genedlaethol Cymru o'r un enw.

Mae Anfamol yn ddrama gomedi dywyll wedi ei haddasu o'r ddrama lwyfan gan yr awdures Rhiannon Boyle.

Mae S4C hefyd yn edrych i ddatblygu mwy o addasiadau teledu o gynyrchiadau'r Theatr Genedlaethol yn y dyfodol.

Dywedodd Sian Doyle Prif Weithredwr S4C:

"Mae Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig yn un o glasuron S4C a dwi yn hynod o gyffrous o fod yn gweithio'n agos gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar y prosiect yma.

"Bwriad y bartneriaeth yw dod â'r gorau o'r theatr i sgriniau pobl ble bynnag y mae nhw, gan ddenu cynulleidfa newydd at y cynyrchiadau yma.

"Bydd hyn yn galluogi pobl i gael blas o'r gwaith gwych mae'r Theatr Genedlaethol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad."

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a Chyd Brif Weithredwr Theatr Genedlaethol Cymru:

"Mae'r bartneriaeth hynod gyffrous yma yn dangos dau gwmni cenedlaethol yn cydweithio'n arloesol.

"Yn ogystal â datblygu sioe gerdd newydd, bydd y bartneriaeth yn ehangu mynediad i'n cynyrchiadau yn ddigidol, arddangos artistiaid gwych Cymru, cynyddu gwerth am arian, a chynnig cyfle i gynulleidfaoedd ail-wylio rhai o'i hoff gynyrchiadau.

"Teithio perfformiadau mor agos at y stepen ddrws ydi ein cenhadaeth, a dyma gyfle i ni fynd dros y rhiniog, mewn i'r stafell fyw!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?