26 Awst 2023
Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau cystadleuaeth feicio y Vuelta o Sbaen sydd yn dechrau dydd Sadwrn.
Yn dilyn degawd o ddarlledu mae rhaglenni Seiclo ar S4C yn mynd o nerth i nerth. Ychwanegwyd y Giro d'Italia i'r arlwy yn 2018 gyda darn olaf y jig-sô – La Vuelta a España – yn daith fawreddog olaf yn y calendr rasio.
Rhodri Gomer fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau'r ras, meddai:
"Ers i ni ddilyn ein Tour de France gynta' ar S4C nôl yn 2014, mae poblogrwydd seiclo wedi ffrwydro yma yng Nghymru, a thipyn o'r diolch am hynny o ganlyniad i lwyddiant y Cymro, Geraint Thomas.
Ond erbyn hyn, mae 'na drwch o reidwyr newydd, cyffrous yn dod trwy'r system yma yng Nghymru, fel y pencampwr Olympaidd, Owain Doull; pencampwr diweddar taith Norwy, Stevie Williams a'r ffenomen o Ffos-y-ffin, Josh Tarling."
Gyda Geraint Thomas wedi cadarnhau y bydd yn rasio yn y Vuelta am yr ail dro, bydd llawer o'r sylw yn annatod ar y Cymro o Gaerdydd. Yn sicr bydd Geraint am wneud fyny am y tro diwethaf iddo rasio – a chrasio – yn y Vuelta yn 2015.
Medd Geraint mewn cyfweliad diweddar bod ansawdd y reidwyr am fod yn anhygoel eleni gyda nifer o'r tô iau yn dod trwyddo, pawb fu ar y podiwm yn ras y Giro yn rasio, Vingegaard a Pogačar (cyntaf ac ail yn y Tour eleni) yn cystadlu hefyd – y sêr i gyd meddai.
Yn ôl Graham Davies, comisiynydd chwaraeon S4C:
"Rydym yn gwybod pa mor boblogaidd yw seiclo i'n cynulleidfa, ac mae S4C yn falch iawn o gael y cyfle i ddarlledu pob un o'r tair prif daith yn ystod y flwyddyn, gan hybu ein hymrwymiad i fod yn gartref i Chwaraeon Cymru. Ar ôl gwylio Geraint Thomas yn dod mor agos yn y Giro yn gynharach eleni, byddwn yn gobeithio y gall y Cymro wneud un yn well eleni, a gallwn ni fod yng nghanol moment hanesyddol arall i chwaraeon yng Nghymru."
Cytuna Rhodri Gomer:
"Mi fyddwn ni'n dilyn cyffro'r rasys bob dydd ar S4C diolch i'n rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol.
Wedi siom y Giro i Geraint Thomas, mae 'na gyfle o'r newydd ganddo i fynd ben ben â Primoz Roglic fis yma ar hyd heolydd Sbaen. Ond fydd hi ddim yn dasg hawdd i'r Cymro, gyda phencampwr y llynedd, Remco Evenepoel yno i amddiffyn ei deitl a Jumbo Visma yn chwilio i gwblhau'r goron driphlyg (ennill y dair taith fawreddog yn yr un flwyddyn) gyda Roglic a reidiwr gorau'r byd, Jonas Vingegaard yn cynnig bygythiad dwbwl i obeithion y lleill.
Tybed a fedrith Geraint gyrraedd yr uchelfannau unwaith yn rhagor?"
S4C cartref chwaraeon Cymru.