12 Gorffennaf 2023
Mae S4C Rhyngwladol wedi penodi Claire Urquhart i arwain Cronfa Cynnwys Fasnachol newydd.
Bydd y gronfa, rhan o grŵp masnachol S4C Rhyngwladol, yn cefnogi prosiectau sydd â photensial masnachol - gan gynnwys drama, rhaglenni ffeithiol a chynnwys plant.
Amcan y gronfa yw canfod partneriaethau creadigol sy'n mynd â chynnwys mentrus ac uchelgeisiol o Gymru i'r byd.
Mae Claire yn ymuno gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn datblygu a chynhyrchu.
Sefydlodd ei chwmni ei hun Silver Strand, a oedd ar flaen y gad o ran creu cynnwys masnachol ar gyfer y farchnad ryngwladol.
Ar ôl bod yn Bennaeth Datblygu yn y BBC Features and Formats a nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol blaenllaw, mae gan Claire record gref o greu brandiau, fformatau, sioeau a ariennir gan frandiau a chyfresi sydd wedi ennill gwobrau.
Dywedodd Claire Urquhart:
"Rwy'n falch iawn o fod yn ymgymryd â'r rôl hon. Rwy'n gwybod am yr heriau y mae cynhyrchwyr yn eu hwynebu wrth ddatblygu prosiectau, ond rwyf hefyd yn gwybod bod y gwobrwyon yn enfawr.
"Alla i ddim aros i weld y prosiectau gwych fydd yn deillio o'r gronfa hon. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â'r gymuned gynhyrchu yng Nghymru a gweithio'n agos gyda nhw."
Bydd Claire yn gweithio ochr yn ochr â thîm masnachol S4C, y Prif Swyddog Cyllid Sharon Winogorski a'r Prif Swyddog Gweithredu Elin Morris.
Bydd hi hefyd yn gweithio'n agos gyda thîm comisiynu S4C dan arweiniad y Prif Swyddog Cynnwys Llinos Griffin-Williams ac sy'n cael ei goruchwylio gan Brif Weithredwr S4C, Siân Doyle.
Dywedodd Siân Doyle:
"Mae'n bleser mawr cael croesawu Claire i S4C.
"Mae hi'n dod â chyfoeth o brofiad, syniadau a gwybodaeth gyda hi a fydd yn amhrisiadwy i ni wrth i ni lansio'r gronfa.
"Rwy'n hyderus y bydd y gronfa yn hwb enfawr i'r sector creadigol yng Nghymru ac yn chwarae rhan bwysig yng nghynlluniau S4C ar gyfer y dyfodol."
Daw'r cyhoeddiad ar adeg gyffrous i'r sector cyfryngau yng Nghymru.
Mae hwb wedi bod mewn buddsoddiad, a diddordeb rhyngwladol mewn cynnwys Cymraeg wedi cryfhau yn dilyn cefnogaeth Ryan Reynolds a'i sianel newydd Maximum Effort, sy'n dangos cynnwys S4C ar 'Welsh Wednesdays' i gynulleidfaoedd ledled yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Claire Urquhart:
"Rwyf am fanteisio ar y momentwm hwn trwy ysgogi creadigrwydd, cefnogi cydweithredu a gyrru llwyddiant masnachol.
"P'run ai drwy sicrhau hawliau i lyfr sy'n gwerthu yn dda, creu peilot mewn genre poblogaidd, neu greu cynhyrchiad cyffrous - bydd y tîm yn edrych ar y prosiectau yn fanwl.
"Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw eich bod yn dod â'ch syniadau mwyaf a gorau atom ni"
Bydd y gronfa yn cael ei lansio'n swyddogol yn ystod y misoedd nesaf gyda manylion llawn am yr hyn y mae'n ei gynnig a sut i wneud cais.
I ddysgu mwy am y Gronfa Cynnwys Fasnachol ac archwilio i mewn i gydweithrediadau posibl, cysylltwch â claire.urquhart@s4c.cymru.