S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

19 Medi 2023

Bydd cronfa ariannol Lŵp S4C a PYST ar gyfer creu fideos cerddorol Cymraeg yn dyblu er mwyn ariannu ugain fideo newydd dros y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd y gronfa yn wreiddiol y llynedd fel ffordd o roi cyfle i artistiaid a chyfarwyddwyr newydd greu eu fideo cyntaf i hyrwyddo traciau newydd.

Fe fydd y gronfa yn tyfu dros y flwyddyn nesaf, gyda'r nod o weithio â cherddorion a chyfarwyddwyr na fyddai'n cael cyfle fel arall i greu fideos Cymraeg.

O fis Hydref bydd galwad chwarterol am syniadau ar gyfer fideos, gyda phump yn cael eu cyhoeddi bob chwarter.

Mae'r gronfa yn bartneriaeth rhwng corff dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST a Lŵp S4C.

Os am ymgeisio am gefnogaeth gan y gronfa cysylltwch a post@pyst.net i gael manylion pellach.

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST:

"Dangosodd llwyddiant y flwyddyn gyntaf bod gwir angen am gyfleon ariannu ar gyfer fideos annibynnol.

"Mae hyn yn enwedig o wir ar gyfer y cerddorion a'r cyfarwyddwyr hynny na fyddai o bosib yn cael y cyfle, ac yn sicr fyddai'n methu gwireddu eu gweledigaeth heb gymorth.

"Mae amrywiaeth yr artistiaid a chyfarwyddwyr yn y rownd gyntaf yn tanlinellu yr awydd sydd yn bodoli i ymgysylltu â chreu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Dwi yn edrych ymlaen yn fawr i weld y gronfa yn parhau i dyfu flwyddyn nesaf."

Dywedodd Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C,

"Mae'n wych gallu cefnogi cerddorion a chyfarwyddwyr Cymru er mwyn rhoi platfform i arddangos eu talentau.

"Dwi mor falch fod y gronfa yn tyfu ac yn rhoi rhagor o gyfleon i ni gael gweld mwy o fideos cerddorol Cymraeg.

"Mae hwn yn gyfle gwych ac fe fyddwn ni yn galw ar unrhyw un sydd a diddordeb i wneud cais."

Dros y flwyddyn ddiwethaf comisiynwyd deg fideo newydd gyda chefnogaeth y gronfa:

Sachasom 'Agor'

Cyfarwyddwyd gan Sion Teifi Rees a Sam Stevens

Dead Method 'Marwolaeth'

Cyfarwyddwyd gan Molly Allen a Edward Russell

Kathod 'O Hedyn Bach / Troelli / Cofleidio'r Golau'

Cyfarwyddwyd gan Manon Wyn Jones

The Trials of Cato 'Aberdaron'

Cyfarwyddwyd gan Matt Coles

Chwalaw ' Dim Arwyr'

Cyfarwyddwyd gan Izzy Rabey

Talulah 'Byth yn Blino'

Cyfarwyddwyd gan Leah McLaine a Dominika

Gig Klust 01

Cyfarwyddwyd gan Aled Victor

Sachasom 'Braf oedd Byw' (Enillydd Brwydr y Bandiau 2022)

Cyfarwyddwyd gan Sion Teifi Rees a Sam Stevens

Achlysurol 'Dŵr i'r Blodau'

Stori a script gan Anna Bobrytska

Cynhyrchwyd gan Aled Emyr

Moss Carpet

Enillydd Brwydr y Bandiau 2023

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?