16 Hydref 2023
Enillodd S4C wyth gwobr yn seremoni BAFTA Cymru neithiwr gan gynnwys dwy wobr i ffilm Y Sŵn.
Gwobrwywyd Y Sŵn - am Ffilm Nodwedd / Deledu orau a hefyd Golygu: Ffuglen a Ffilm Nodwedd aeth i Kevin Jones.
Cyflwynwyd y noson gan Alex Jones yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd.
Roedd y noson wobrwyo yn ddathliad o dalent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.
Enillodd y gyfres ffeithiol Greenham ddwy wobr am y Gyfres Ffeithiol orau ac i Rhys ap Rhobert am ei waith Golygu.
Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan Y Byd Qatar wnaeth ennill y rhaglen Newyddion, Materion Cyfoes a Phynciol orau gyda Mabinogi-ogi yn ennill y Rhaglen Blant orau am yr ail waith.
Llongyfarchiadau enfawr i Lisa Jên enillodd y categori Cyflwynydd a hithau wedi ei henwebu am y tro cyntaf erioed am ei gwaith ar y rhaglen Stori'r Iaith.
Enillodd ffilm Gwledd, fydd i'w gweld ar S4C ar ddiwrnod Calan Gaeaf, gategori Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen.
Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C:
"Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm â holl gynnwys S4C.
"Rhaid diolch yn arbennig i waith arbennig ein staff o fewn S4C, i'n partneriaid ac i'r cwmnïau cynhyrchu yr ydym yn gweithio yn agos iawn â nhw.
"Llongyfarchiadau mawr i'r enwebwyr a'r enillwyr i gyd."