S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Yr actores Sera Cracroft yn siarad am y tro cyntaf am yr ymosodiad arni pan yn blentyn

20 Tachwedd 2023

Mae'r actores Pobol y Cwm, Sera Cracroft, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ymosodiad rhywiol ddigwyddodd iddi pan oedd yn blentyn.

Mewn cyfweliad gyda chyfres Sgwrs Dan y Lloer ar S4C, mae'n disgrifio ymosodiad yn nhŷ ffrind yn ystod parti pen-blwydd.

Mae Sera Cracroft wedi chwarae rhan Eileen yng nghyfres sebon S4C Pobol y Cwm ers 1989. Dywed mai ei phrif reswm dros siarad yn gyhoeddus yw ceisio helpu eraill sydd wedi dioddef profiadau tebyg.

Yn y cyfweliad a gaiff ei ddarlledu ar S4C am 20:00 nos Lun Tachwedd 20ain , dywed Sera Cracroft:

"Dwi'n cofio o ni yn teimlo fy mod i yn mygu. A nes i frathu ei law o a sgrechian am Mam. A wedyn dwi yn cofio poen anferthol yn fy mraich i hefyd.

"Sbio ar y person yma a gwybod bod o wedi dychryn bo fi wedi sgrechian. Oedd o yn gafael yn fy mraich i a wnaeth o droi allan bod o wedi fracturo fy mraich i."

Cadwodd Sera yn dawel am yr ymosodiad am flynyddoedd, gan ei gadw iddi hi ei hun. "Nes i rioed sôn am y cam-drin rhywiol, erioed tan o ni bron yn ganol oed. Ond o ni yn cael flashbacks ofnadwy, a dychryn ac o ni yn blentyn nerfus iawn."

Flynyddoedd ar ôl yr ymosodiad, pan deimlodd ar ei hisaf dechreuodd Sera feddwl am hunanladdiad.

"O ni methu delio â hyn. O ni dan straen. Oedd fy ngŵr wedi bod yn sâl yn gorfforol a ges i pneumonia, oedd fy merch ieuengaf yn dioddef gyda'r cyflwr sydd arni."

Daeth cwlwm Sera â'i theulu â hi'n ôl o'r dibyn. "Nes i just meddwl amdan y plant, amdanyn nhw pan oedden nhw yn blant bach.

"Dwi'n cofio un nyrs yn dweud wrtha i, 'there isn't one child I've spoken to who would think their life better without their mother'".

Dechreuodd Sera driniaeth seiciatrig yn fuan wedyn a dechreuodd rannu ei phrofiadau gyda'r tîm oedd yn ei chefnogi.

"Dwi wedi cael lot o gwnsela, a ma hynna wedi bod yn help. Dwi wedi gwneud ffrindiau gyda pobol, a ma nhw wedi cysylltu â fi am iechyd meddwl."

Mae ganddi bellach rwydwaith cymorth cryf gan gynnwys cyn-gôl-geidwad Cymru ac Everton, Neville Southall, sy'n eiriolwr dros wasanaethau iechyd meddwl.

Dywed Sera: "Rŵan dwi mewn lle da."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?