S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Scott Quinnell yn hyfforddi tîm rygbi i bobl o bob gallu

30 Ionawr 2024

Am y tro cyntaf erioed bydd cyfres am rygbi T1, sef fformat newydd o rygbi ar gyfer pobl o bob gallu, i'w gweld ar deledu a hynny ar S4C.

Yn y gyfres newydd, Stryd i'r Sgrym ar S4C nos Fawrth 30 Ionawr am 21:00, yr her i Scott Quinnell fydd hyfforddi tîm o chwaraewyr o wahanol alluoedd a chefndiroedd.

Bydd y tîm yn chwarae gêm gystadleuol ar ddiwedd y gyfres yn erbyn tîm o Loegr.

Fformat newydd yw T1 gan World Rugby a gafodd ei lansio ym Mharis cyn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ym mis Medi.

Mae'n gêm ddi-gyswllt ond sydd yn cynnwys nodweddion rygbi adnabyddus fel sgrymiau a llinellau.

Gyda'r pwyslais ar fwynhau, ffitrwydd a chynnwys pawb yn yr hwyl – mae'n gêm gall unrhyw un ei chwarae.

Gobaith World Rugby yw fod y fformat newydd yma yn denu pobl at y gamp, a hynny mewn cyfnod ble mae pryderon am y gêm yn sgil anafiadau, yn enwedig ergydion i'r pen.

Yn rhan o'r tîm hyfforddi gyda Scott mae Ken Owens, cyn-gapten tîm dynion Cymru, Alex Jones, un o hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru, Siwan Lilicrap, cyn-gapten tîm menywod Cymru a Billy McBryde, sy'n chwarae i'r Doncaster Knights.

Yn helpu gyda'r broses mae Osian Leader, Seicotherapydd o'r elusen School of Hard Knocks.

Mae'r elusen yn helpu pobl i wella eu iechyd meddwl a chorfforol, a rôl Osian fydd sicrhau fod yr heriau mae'r cyfranwyr yn wynebu yn gamau positif ymlaen yn eu bywydau.

Mae rhai wedi chwarae rygbi o'r blaen, ac eraill yn ddechreuwyr pur, ond mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol, gan gynnwys Dylan Evans, o Waunfawr.

Mae Dylan eisoes yn aelod o Glwb Rygbi'r Stingrays ym Mae Colwyn, sy'n dîm i bobl â gwahanol alluoedd, ond mi wnaeth y fformat newydd yma ddal ei sylw.

Cafodd Dylan ddiagnosis o ADHD pan oedd o'n 7 mlwydd oed, ac yn ddiweddar iawn, cafodd ddiagnosis o Awtistiaeth hefyd. Mae o'n gweld hi'n anodd i gyfathrebu gyda pobl ar adegau.

Meddai Jackie, mam Dylan:

"Tydi o ddim wedi cael cyfleoedd fel pobl ifanc eraill yr un oed oherwydd ei bersonoliaeth a'i gymeriad o, a pa mor anghenus mae o wedi bod, sydd ddim yn deg iawn. Dwi'n meddwl ddylai pob person a plentyn gael yr un cyfleoedd mewn bywyd."

Ac mae Scott Quinnell yn angerddol iawn am helpu pobl i gael yr hyder i chwarae, a'r cyfle i gydweithio fel tîm:

"Oherwydd galla i ddim chwarae mwy, dydw i ddim yn rhan o dîm bob wythnos. A dwi'n gweld eisiau bod yn rhan o dîm – chi yw fy nhîm i."

Y pencadlys am y tri mis nesaf fydd Y Trallwng, ac mi fydd y criw hefyd yn hyfforddi yng Nghefneithin ac yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Gwyliwch y promo yma.

Stryd i'r Sgrym

Nos Fawrth, 30 Ionawr, 21.00

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Whisper Films ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?