S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Brexit “y peth gwaethaf sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd” – Peredur ap Gwynedd

03 Chwefror 2024

Mae Peredur ap Gwynedd, gitarydd y band Pendulum, wedi dweud mai Brexit yw'r "peth gwaethaf sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd".

Mewn cyfweliad ar gyfer cyfres Taith Bywyd ar S4C mae'n sôn am golli degau o filoedd o bunnoedd oherwydd cyfyngiadau ar y diwydiant cerddoriaeth yn dilyn Brexit.

Bydd y rhaglen i'w gweld ar S4C am 21.00 ar nos Sul Chwefror 4, pan fydd Peredur yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei fywyd a dylanwadu ar ei yrfa.

Mae Peredur wedi teithio'r byd gyda band Pendulum ac ar fin mynd ar daith arall o gwmpas Prydain ac Ewrop. Cyn hynny, roedd yn chwarae gyda band Natalie Imbruglia pan gafodd hi lwyddiant ysgubol gyda'r sengl Torn wnaeth werthu dros 4 miliwn o gopiau.

Wrth sgwrsio gyda chyflwynydd y rhaglen, Owain Williams, dywedodd Peredur:

"Pan o'n ni'n aelodau o'r EU o'n ni'n gallu symud nol a mlaen i Ffrainc, i'r Eidal, i'r Almaen faint bynnag o'n ni eisiau...Brexit yw'r peth gwaetha' sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd.

"Alla i ddim maddau i unrhyw un sydd wedi pleidleisio drosto fe a fi'n beio nhw, beio pob blydi un ohonyn nhw. Mae e wedi effeithio arna i a bywydau pobol fi'n gweithio gyda."

Ym mis Medi 2022 fe wnaeth Peredur roi tystiolaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi am effaith rheolau Brexit ar fywoliaeth cerddorion a thechnegwyr o'r Deyrnas Unedig.

Yn ôl Peredur ap Gwynedd, mae dinasyddion y Deyrnas Unedig sydd â phasbort Prydeinig ac yn gweithio yn y maes cerddoriaeth byw wedi colli incwm a chyfleoedd gwaith.

Wrth drafod ei gyfnod yn teithio'r byd gyda band Natalie Imbruglia a llwyddiant y sengl Torn dywedodd Peredur:

"Gyda Torn, aeth e o ddim byd lan i'r stratosffer – sdim lot o gerddorion yn cael y profiad yna. Sai wedi gweld unrhyw beth fel e erioed. Ti 'di gweld e i gyd – i gyd."

Mae Peredur hefyd yn adnabyddus fel pundit seiclo i S4C, ac yn enw mawr gyda'r seiclwyr hefyd sydd wrth eu boddau a cherddoriaeth Peredur.

"Y ddau hobi sydd gyda fi yw cerddoriaeth a seiclo." meddai, "Fi'n rili, rili, rili lwcus bod fi'n gallu neud y ddau na fel bywoliaeth."

Mae penodau eraill y gyfres gyda'r rheolwr pêl-droed Osian Roberts, y darlledwr Jason Mohammad a'r dylanwadwr a'r cyflwynydd Jess Davies i'w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy'r dyddiau da a'r amseroedd anodd. Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd, nag i le maen nhw'n mynd nesaf.

Taith Bywyd

Nos Sul, 4 Chwefror, 21.00 S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a platfformau eraill

Cynhyrchaid Cardiff Productions i S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?