S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Siân James yn ail-ymweld â lleoliadau y ffilm Pride

10 Chwefror 2024

Bydd y cyn-Aelod Seneddol a'r ymgyrchydd Siân James yn ail-ymweld â'r lleoliadau pwysig iddi yn ymgyrch streic y glowyr, lleoliadau gafodd hefyd eu defnyddio fel rhan o'r ffilm Pride am yr hanes.

Ym mhennod olaf cyfres Taith Bywyd ar S4C fe fydd Sian James yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei bywyd a dylanwadu ar ei gyrfa.

Bydd y rhaglen, wedi'i chyflwyno gan Owain Williams, i'w gweld ar S4C am 21.00 ar nos Sul 11 Chwefror.

Ar ei thaith bydd hi'n ail-ymweld â'r Electric Ballroom yn Llundain, lleoliad digwyddiad 'Pits and Perverts' gafodd ei drefnu gan y mudiad Lesbians and Gays Support the Miners, ym mis Rhagfyr 1984 .

Cyngerdd oedd hwn i godi arian i'r teuluoedd oedd wedi'u heffeithio gan y streic.

Yma, bydd hi'n cyfarfod â Jonathan Blake, un o aelodau gwreiddiol yr LGSM oedd yn rhan ganolog o sefydlu'r berthynas arbennig yma rhwng y glowyr a'r gymuned hoyw, un sydd wedi dod yn ffrind oes i Siân.

Dywedodd Siân:

"Pan chi o dan ymosodiad, chi'n edrych am bobl eraill sydd o dan ymosodiad a chi'n dysgu o'r grwpiau yna beth mae bywyd wedi bod fel, a shwt maen nhw wedi gwthio nôl a delio gyda annhegwch."

Dros gyfnod y streic, mi lwyddodd y Lesbians and Gays Support the Miners godi tua £20,000, swm o rhyw £80,000 heddiw, ar gyfer y glowyr – mwy nag unrhyw grŵp arall.

Ar ôl codi'r arian, fe ddaeth criw o'r LGSM i Gwm Dulais ac mae Jonathan yn cofio yr ansicrwydd am ba fath o groeso fyddai yn eu disgwyl:

"Roedden ni'n nerfus iawn - beth oedden ni'n gwneud yma? Oedd o'n wirion? A dwi'n cofio ni'n cerdded i mewn i ddistawrwydd... A dechreuodd rhywun glapio, ac yna roedd yr ystafell gyfan yn cymeradwyo. Roedd o'n anhygoel. Roedd o fel ein bod ni adref.

"Roedden ni'n teimlo fel ein bod ni'n cael ein croesawu â breichiau agored, roedd o'n rhyfeddol. A doedd dim un ohonom ni'n ei ddisgwyl.

"Beth oedd y tebygrwydd rhyngom ni i gyd?" Meddai Siân, "Roedden ni gyd yn casáu Margaret Thatcher!"

Mae'r profiad o fod yn y lleoliad yma yng nghwmni Jonathan a Siân yn un emosiynol iawn i'r cyflwynydd Owain Williams hefyd:

"Fi'n Gymro a fi'n ddyn hoyw – a fi mor falch o fod y ddau beth yna... Maen nhw wedi dangos i fi shwt mae'r ddau beth yna yn gallu cyd-fyw ynddo i. A pan mae'r rhannau yna'n dod at ei gilydd, dyna ble mae'r nerth i fod yn ti dy hun. Dyna beth yw'r esiampl mae'r ddau ohonyn nhw'n dangos i bobl fel fi."

Yn y rhaglen, bydd Siân hefyd yn derbyn gwobr arbennig i gydnabod ei chyfraniad oes i'r gymuned LHDTC+.

Cawn hefyd weld ochr arall iddi, sef ei diddordeb mewn gwnïo.

Mae Siân wedi bod yn mynychu gweithdai yn y Little Stitchery yn Ystradgynlais ers 6 mlynedd, gan bod ganddi ddiddordeb gyda chreu dillad tebyg i'r rhai byddai cymeriadau Jane Austen yn eu gwisgo.

Mae Siân yn galw ei hun yn 'Austenite' ac yn teithio Prydain ac Ewrop i ddigwyddiadau Austen, gan gymryd rhan mewn parades yn gwisgo'r dillad crand yma.

Ar ôl bywyd o ymgyrchu ac edrych ar ôl pobl eraill, mae Siân wedi dysgu rhywbeth newydd trwy fynd i'r gweithdai hyn:

"Beth fi wedi dysgu yw eich amser chi yw hwn, a dyw e ddim byd i neud gyda gwleidyddiaeth, dyw e ddim byd i neud gyda gwaith.

"Y Siân sydd moyn bod yn dawel, y Siân sydd moyn dysgu, y Siân sydd moyn dilyn, nid arwain. Achos yn fan hyn, alla'i ddilyn."

Mae penodau eraill y gyfres gyda'r rheolwr pêl-droed Osian Roberts, y darlledwr Jason Mohammad, y dylanwadwr a'r cyflwynydd Jess Davies a'r gitarydd Peredur ap Gwynedd i'w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy'r dyddiau da a'r amseroedd anodd. Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd, nag i le maen nhw'n mynd nesaf.

Mae modd gwylio Sian yn ymweld â'r Electric Ballroom yma.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?