S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

7 Mawrth 2024

Mae S4C yn chwilio am gwpwl unigryw sydd am briodi o flaen y camerâu gyda chynnig o £15,000 ar gyfer y diwrnod mawr.

Dros y blynyddoedd mae cyfres Priodas Pum Mil wedi trefnu 47 o briodasau am £5,000, gyda help teulu a ffrindiau. Y tro hwn mae'r swm ar gael wedi ei threblu i baratoi diwrnod i'w gofio i bâr haeddiannol ar gyfer un rhifyn arbennig fydd yn cael ei darlledu dros y Nadolig.

Bwriad y sioe yw i geisio gwireddu breuddwyd un cwpwl sydd a rheswm neu angen arbennig fyddai tu hwnt i'w cyrraedd heb y cynnig hwn.

Y gwylwyr fydd yn dewis y pâr buddugol ond gall cyplau neu deulu a ffrindiau enwebu pâr haeddiannol nawr.

Fel yr arfer, bydd y pâr lwcus yn cael cefnogaeth eu teuluoedd a'u ffrindiau i drefnu'r diwrnod, gyda help y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris i greu'r briodas berffaith.

Esbonia Emma Walford:

"Dwi'm yn gwbod pwy fydd fwyaf cyffrous – y pâr lwcus, neu Tryst a fi – y pâr sy'n cyflwyno!

"Mae hyn yn gyfle unigryw ac arbennig iawn. Mae modd edrych tu hwnt i'r terfynau ariannol arferol, nid gwario er mwyn gwario ond efallai bod yna leoliad arbennig 'sa chi'n hoffi teithio iddo, neu fod eich teulu'n byw ar ochr arall y byd?"

"Beth am geisio gwireddu breuddwyd? Mae'r cyfleon cymaint yn fwy, ac mi fydda' i a Trystan wrth ein bodd yn ceisio'u gwireddu."

Mae Trystan hefyd wedi cyffroi:

"Dwi byth yn blino ar wneud y rhaglen yma. Ond dyma gynnig twist bach arbennig - am un briodas yn unig - bydd £15,000 i'w wario!

Felly da chi, cysylltwch rŵan, sgynnoch chi ddim i'w golli, ond lot fawr i'w ennill."

Er mwyn gwneud cais i gael priodas eich breuddwydion, ewch i www.priodas.cymru gan lenwi'r ffurflen gais syml.

Mae yna lyfr Sut i Drefnu Priodas Pum Mil ar gael yn y siopau lleol nawr wedi ei ysgrifennu gan gyflwynwyr y rhaglen Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford a hefyd y trefnydd priodasau Alaw Griffiths.

Gallwch ddal fyny ar holl raglenni diweddar Priodas Pum Mil ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?