S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y cyn-chwaraewr rygbi Nathan Brew yn siarad am y tro cyntaf am lofruddiaeth ei frawd

25 Mawrth 2024

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru Nathan Brew, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am lofruddiaeth ei frawd mewn ymosodiad y tu allan i glwb nos yng Nghastell Nedd yn 2022.

Unwaith yn unig y cafodd Matthew Thomas ei daro gan Daniel Pickering yn ystod yr ymosodiad – achos o farwolaeth un ergyd.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae un o bob deg llofruddiaeth a dynladdiad a gofnodwyd yng Nghymru wedi eu hachosi gan ymosodiad un ergyd.

Mewn cyfweliad gyda S4C dywedodd Nathan fod y teulu wedi dod yn llawer agosach at ei gilydd yn dilyn y drasiedi.

Yn y rhaglen Nathan Brew: Un Eiliad Un Ergyd mae Nathan a'i chwiorydd Rachel Brew a Kath Thomas, yn rhannu hanes eu brawd, Matthew oedd yn 47 oed, ac effaith y drasiedi ar eu teulu.

Bydd y rhaglen i'w gweld ar S4C am 9.00 nos Sul, 24 Mawrth ac hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Dywedodd Nathan:

"Ni fel teulu nawr yn llawer mwy agos ar ôl beth sydd wedi digwydd i Matthew na cynt, achos mae trasiedi fel hyn yn dod â chi gyd gyda'ch gilydd."

"Gathon ni alwad am 1 o'r gloch y bore i ddweud bod ei vitals i gyd wedi newid, a byddai'n syniad i ni fynd lawr yna. Athon ni'n syth i lawr - roedd hynna'n anodd. Athon ni gyd fel teulu. Da'th y Consultant a dweud 'really sorry ma' Matthew yn mynd i farw' - bydd yn marw cyn y bore, a dyma'ch cyfle i fynd mewn a dweud eich goodbyes."

"O'n i ffaelu derbyn y ffaith rwy'n credu yn edrych nôl. O'n i'n meddwl 'what's this going to achieve?' ond nes i snapo allan ohono fe. Es i fewn at Matthew - jest ni'n dau, ac o'n i'n ymddiheuro iddo fe am y ffaith falle bod ni ddim mor agos ag oedden ni pan o'n i'n tyfu lan."

"Peth fwya' dwi'n cofio'n edrych nôl oedd ei wyneb. O'dd cut bach ar ei wyneb ond o'dd e'n edrych yn iawn. Bach o ddryswch rili, yn meddwl ma' fe'n edrych yn ok, so pam ma'n nhw'n dweud so fe'n debygol o ddod drwyddo? O'dd hwnna'n neud i fi feddwl falle bod beth o'dd yr heddlu wedi dweu'tho fi'n anghywir."

Roedd Daniel Pickering, gŵr 34 oed, wedi bod yn yfed alcohol drwy'r dydd ac wedi cymryd gwerth dros £100 o cocaine cyn iddo ymosod ar Matthew Thomas.

Cafodd Pickering ei ddedfrydu i leiafswm o 18 mlynedd dan glo, gyda'r heddlu'n disgrifio'r ymosodiad fel un heb reswm ac yn enghraifft o sut y gall gor-yfed a chymryd cyffuriau sbarduno ymddygiad treisgar.

Wrth gofio nôl i'r diwrnod hwnnw yn y llys, meddai Nathan:

"O'dd look hollol ddidrugaredd ar ei wyneb. O'dd dim remorse o gwbl.

"I glywed yr hanes tu ôl i Daniel Pickering – bod e 'di gwneud rhywbeth tebyg cynt (er nid i'r un lefel) - o'dd hwnna'n gwneud ni'n eithaf crac, nid jest at Daniel Pickering ond at y system achos dyle fe byth fod wedi bod allan."

Bydd y rhaglen yn dilyn ditectifs Heddlu De Cymru wrth iddynt geisio mynd i'r afael â'r broblem o farwolaethau un ergyd.

Cawn hefyd hanes tri achos torcalonnus arall fu yn y penawdau yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Meddai DS Neil Jones, Heddlu De Cymru:

"Fel arfer, dynion yn eu hugeiniau neu dridegau sy'n mynd mas ac yfed gormod a chymryd cyffuriau sy'n troseddu. Pan mae cymysgedd o'r ddau beth, mae pobl yn mynd i fihafio'n wahanol.

"Ni'n cael nifer bob blwyddyn sy'n anffodus yn marw o ganlyniad i ymosodiad un ergyd. Adeg Covid roedd lot llai; doedd tafarndai ddim ar agor; doedd pobl ddim yn mynd mas shwt gymaint, Ond nawr, mae'r ymosodiadau wedi cynyddu unwaith eto.

"Yn yr un eiliad 'na ma' byd pobl yn cwympo dan eu traed. I'r heddlu mae'n achosi gwaith, ond yn bennaf, beth sy'n digwydd i'r teulu. Mae'n dostrwydd i weld teulu yn ymateb i rhywbeth mor ddibwrpas."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?