S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

1,900 o swyddi a £136m yn cael ei gynhyrchu gan waith S4C

11 Ebrill 2024

Mae adroddiad newydd yn nodi bod cyfraniad economaidd S4C wedi arwain at 1,900 o swyddi a chynhyrchu £136m i economi Cymru.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan gwmni Wavehill i'r darlledwr cyhoeddus ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 i fesur effaith economaidd a chymdeithasol S4C ar Gymru a thu hwnt.

Mae'r adroddiad yn dangos fod S4C, sy'n darlledu dros 115 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg amrywiol, yn cyfrannu mwy i'r economi na mae'n ei dderbyn mewn arian cyhoeddus ac yn cefnogi 1 o bob 7 o swyddi yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Am bob £1 o gyllid ffi'r drwydded a dderbyniodd S4C, cynhyrchodd y darlledwr £1.53 ar gyfer yr economi yng Nghymru, swm oedd yn codi i £1.77 i'r Deyrnas Unedig.

Mae S4C yn un o'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf cost-effeithlon yn y DU, gyda chost yr awr yn sylweddol is na darlledwyr eraill ond mae ei gweithgareddau hefyd yn cynhyrchu refeniw treth sy'n fwy na'r arian y mae'n ei dderbyn. Am bob £1 punt o gyllid ffi'r drwydded y mae S4C yn ei derbyn, mae £1.02 yn cael ei gynhyrchu mewn treth i'r Trysorlys.

Gyda dros £79m yn cael ei wario, a hanner y cyflenwyr wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd, mae effaith S4C i'w deimlo ym mhob cwr o Gymru. Gweithiodd S4C gyda dros 977 o gyflenwyr mewn 47 o sectorau gwahanol yng Nghymru a thu hwnt.

Ers ei sefydlu yn 1982 mae S4C wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi eu sefydlu ledled Cymru. Yn ystod 2022-23 fe wnaeth S4C weithio gyda 70 o gwmnïau cynhyrchu a rhannu bron i 80% o'i chyllideb i gomisiynu cynnwys. Roedd dros 98% o'r gyllideb gynnwys honno wedi ei gwario ar gwmnïau cynhyrchu â phencadlys yng Nghymru.

Dywedodd Guto Bebb, Cadeirydd dros dro S4C:

"Mae adroddiad Wavehill yn rhoi trosolwg da o'r gwaith mae S4C yn ei wneud i gefnogi economi Cymru, creu twf o ran y diwydiannau creadigol, a chreu swyddi ar draws y wlad.

"Fe gaiff mwy o arian ei gyfeirio yn ôl at y pwrs cyhoeddus gan S4C nag sydd yn cael ei fuddsoddi yn wreiddiol – prawf pendant o'n gallu i wneud pob ceiniog i gyfri.

"Mae S4C yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru tra hefyd yn llwyddo i gyfrannu'n gymdeithasol a chefnogi ein diwylliant a'n hiaith.

"Rhaid diolch i'n holl bartneriaid ni yn y sector ac i staff S4C am eu holl waith caled a'u creadigrwydd wrth fynd ati i greu'r holl gynnwys gwych ar ein cyfer."

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu dyletswydd cymdeithasol S4C fel darlledwr cyhoeddus ac yn tynnu sylw arbennig at ei rôl fel eiriolwr dros y Gymraeg a'i ymrwymiad i wella cynrychiolaeth ac amrywiaeth ar y sgrin a drwy'r sector.

Dywedodd Sioned Wiliam, Prif Weithredwr dros dro S4C:

"Dylem ni gyd fod yn falch o'r rôl y mae S4C yn ei chwarae yn ein bywyd diwylliannol ni fel gwlad.

"Yn enwedig o gofio ein bod ni fel darlledwr yn creu cyfleon economaidd i sefydlu cwmnïau newydd a chreu swyddi, i dyfu'r sector greadigol ac i fuddsoddi mewn sgiliau a chyfleon i'r gweithlu.

"Mae'r rhaglenni a chynnwys S4C y gwelwn ni ar y sgrîn hefyd yn cael effaith economaidd positif ar bob rhan o Gymru, gan gynnig cyfleoedd sydd yn gwreiddio pobl i'w cymunedau."

Meddai Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfryngau Julia Lopez:

"Ers dros 40 mlynedd, mae S4C wedi hyrwyddo cynnwys Cymraeg ac mae'r effaith yn glir: mae'n gweithio gyda channoedd o gyflenwyr, yn cefnogi bron i ddwy fil o swyddi, ac yn cynhyrchu miliynau i'r economi yng Nghymru a thu hwnt.

"Rydym yn dangos ein hymrwymiad i ddarlledu Cymraeg drwy'r Bil Cyfryngau, gyda mesurau a fydd yn cynorthwyo S4C i adeiladu ar ei llwyddiannau dros y blynyddoedd i ddod."

Croesawodd Hannah Blythyn, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Diwydiannau Creadigol, ganfyddiadau'r adroddiad, gan ddweud:

"Mae'n wych gweld pwysigrwydd S4C yn cael ei adlewyrchu mewn effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar economi Cymru. Mae Cymru Greadigol yn edrych ymlaen at barhau â'i phartneriaeth strategol gydag S4C i gefnogi cyfleoedd newydd i hyfforddeion, talent, cynnwys o ansawdd uchel a hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg yn fyd-eang."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?