S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

2 Mai 2024

Bydd S4C yn darlledu fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice. Mi fydd 'Y Llais' yn cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios, ac yn cael ei ddarlledu yn 2025.

Bydd Y Llais yn cynnwys y canwr opera rhyngwladol Syr Bryn Terfel fel un o'r pedwar Hyfforddwr o wahanol gefndiroedd cerddorol fydd yn eistedd yn y cadeiriau mwyaf eiconig ar y teledu.

Mae Syr Bryn Terfel wedi bod yn perfformio mewn tai opera a llwyfannau ar draws y byd dros y tri degawd diwethaf.

Enillodd wobrau yn y Grammys, y Classical Brit Awards a gwobr Gramophone, yn ogystal â pherfformio yn seremoni Coroni'r Brenin fis Mai llynedd.

Fersiwn Gymraeg S4C yw'r 75ain addasiad o fformat gwreiddiol The Voice, sy'n golygu mai dyma'r brand sydd â'r fformat di-sgript mwyaf llwyddiannus yn y farchnad fyd-eang hyd yn hyn.

Ynghyd â'i chwe fersiwn spin-off, cafodd y fformat ITV Studios yma ei enwi gan K7 Media yn y mis ddiwethaf fel Masnachfraint y Flwyddyn (Franchise of the Year), yn ogystal â'r fformat sydd â'r nifer fwyaf o fersiynau ar yr awyr yn 2023.

Fe fydd yna wyth pennod awr a hanner o hyd yn rhan o gyfres S4C.

Bydd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau wrth i gantorion gorau'r genedl geisio creu argraff ar bedwar o artistiaid gorau Cymru.

Fe fydd y cystadleuwyr yn camu i'r llwyfan mewn ymgais i gael eu coroni yn enillydd y gyfres, gan sicrhau gwobr o gynllun mentora 12 mis o hyd sy'n cynnwys cyfle i berfformio ar raglenni S4C.

Bydd y gyfres yn cynnig adloniant llawn hwyl i'r teulu cyfan gyda'r cyfan ar gael i'w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Dywedodd Syr Bryn Terfel:

"Mae'n wych bod Gwlad y Gân yn cael fersiwn arbennig ei hun o'r gyfres The Voice – pa ffordd well o ddarganfod y seren fawr nesaf?

"Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y wefan www.s4c.cymru/yllais.

"Dyma'r cyfle perffaith i wireddu eich breuddwyd, i berfformio ar S4C, ac i fod yn rhan o'r gyfres mwyaf cyffrous ar y teledu."

Bryn Terfel

Bydd Y Llais yn cael ei gyflwyno gan gyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri.

Meddai Sian Eleri:

"Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gyflwyno un o sioeau mwya'r byd – sioe sy'n blatfform i ddarganfod a meithrin talent newydd.

"Mae croesawu'r sioe adre i Gymru gyda S4C yn brofiad gwirioneddol arbennig! Dwi methu aros i weld y cadeiriau enwog yn troi!"

Sian Eleri - cyflwyno

Meddai Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C:

"Ry' ni'n falch iawn i fedru dod â fformat sydd mor llwyddiannus yn fyd eang i Gymru. Wrth i ni anelu i ddenu cynulleidfa amrywiol, bydd Y Llais yn dipyn o sioe fydd yn apelio yn eang.

"Bydd y driniaeth yn Gymreig ac yn Gymraeg iawn, gydag un o gantorion opera mwyaf llwyddiannus y byd, Syr Bryn Terfel yn eistedd yn un o'r cadeiriau coch adnabyddus, ac enwau cyffrous o'r byd canu cyfoes Cymraeg i ddilyn.

"Fel cenedl rydyn ni wedi cynhyrchu rhai o leisiau gorau'r byd, ac ry' ni'n mawr obeithio y bydd y gyfres hon yn dod o hyd i'r llais mawr nesa o Gymru.

Dywedodd Nia Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru:

"Mae The Voice yn gystadleuaeth leisiol fyd-eang eiconig, a'r llwyfan perffaith i ddarganfod llais hudolus o Gymru.

"Mae'n fraint i gael gweithio gyda Syr Bryn Terfel, ac i greu'r 75ain addasiad o'r fformat hynod o boblogaidd yma i S4C.

"Rydym yn annog pob canwr uchelgeisiol yma yng Nghymru i wneud cais am Y Llais er mwyn arddangos eu dawn a'u helpu i wireddu eu breuddwydion."

Er mwyn cymryd rhan yn Y Llais rhaid cyflwyno ffurflen gais erbyn Mehefin 21ain, 2024 trwy ddilyn y ddolen yma: www.s4c.cymru/yllais

Bydd clyweliadau cychwynnol yn digwydd ar Orffennaf 12fed yng ngogledd Cymru ac ar Orffennaf 15fed yn ne Cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?