S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bwletin tywydd estynedig newydd i’r diwydiant amaeth ar S4C

27 Ionawr 2025

O ddydd Llun 27 Ionawr, bydd S4C yn cyflwyno bwletin tywydd estynedig yn benodol ar gyfer y diwydiant amaeth.

Bydd y bwletinyn darlledu bob nos Lun yn dilyn rhaglen Ffermio.

Yn ogystal â chynnig rhagolygon manwl ar gyfer yr wythnos i ddod, bydd yn rhoi sylw arbennig pan yn berthnasol i amodau tywydd a gwybodaeth fydd yn effeithio ar weithgareddau ffermio a bywyd gwledig.

Wedi cyfnod o ymgynghori rhwng tîm cynhyrchu'r Tywydd ag unigolion o'r diwydiant amaeth am y math o gynnwys roedd ei angen, bydd y bwletin estynedig newydd yn rhedeg fel peilot am gyfnod o ddeufis.

Meddai Sharen Griffith, Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes S4C:

"Mae'r tywydd yn hollbwysig i ffermwyr a chymunedau gwledig, ac rydym yn gobeithio y bydd y bwletin estynedig yn rhoi rhagolwg gwerthfawr i'n gwylwyr".

Bydd y bwletin yn cael ei rannu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol Tywydd S4C ar Facebook ac X, ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer am 24 awr ar ôl y bwletin. Bydd isdeitlau ar gael hefyd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?