S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi Prif Swyddog Cynnwys newydd

31 Ionawr 2025

Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Llion Iwan wedi ei benodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C.

Mae Llion yn Reolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da - un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru.

Ymunodd Llion â Chwmni Da yn 2019 a dan ei arweiniad mae'r cwmni wedi cynyddu trosiant, arloesi gyda gosod cynnwys Cymraeg ar Amazon Prime ac wedi datblygu partneriaethau cyd-gynhyrchu rhyngwladol sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant cyllidebol. Mis yma enillodd y cwmni un o wobrau Broadcast 'Best Place to Work in TV'.

Cychwynnodd Llion ei yrfa fel gohebydd ar bapurau lleol cyn ymuno â'r BBC fel newyddiadurwr – bu yno am ddeng mlynedd mewn amryw rolau newyddion a chwaraeon cyn symud ymlaen i gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen ar gyfer BBC1, BBC2 a BBC4. Wedi cyfnod fel cynhyrchydd llawrydd i nifer o brif gwmnïau annibynnol yng Nghymru, ymunodd Llion â S4C yn 2012 fel Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol a Chwaraeon cyn dod yn Bennaeth Cyhoeddi Cynnwys. Gadawodd i gymryd yr awenau gyda Cwmni Da.

Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C;

"Rydym yn hynod falch o gael Llion yn ymuno â ni yn y rôl allweddol hon. Mae'n bennod newydd gyffrous i ni yn S4C, a bydd cael profiad eang Llion o'r sector gynhyrchu a'i ddealltwriaeth ddofn o'n cynulleidfaoedd amrywiol yng Nghymru yn werthfawr iawn wrth i ni garlamu ymlaen gyda'n trawsnewid digidol."

Meddai Llion Iwan;

"Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud un o'r swyddi gorau yn y byd darllledu yng Nghymru. Mae gan Gymru gymaint o straeon gwych a gafaelgar i'w rhannu – o bob cwr o'r wlad a phob cymuned. Rwy'n edrych ymlaen i gyd-weithio gyda thîm mor greadigol o gomisiynwyr, yr Uwch-dim Arwain a'r staff ehangach yn S4C i ddod â'r cynnwys gorau i sgriniau bach a mawr ar hyd Cymru a thu hwnt."

Bydd Llion yn dechrau yn ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys ym Mawrth 2025.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?